Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
RainbowBiz yn mynd o nerth i nerth
Published: 08/05/2019

O'r chwith i'r dde:听William Way, Darren Cook, Sarah Way, Melissa Cross, Sue Oliver, Mike Dodd
听
Mae menter gymdeithasol RainbowBiz wedi ymuno 芒 Ginger Pixie Photography.
Gan ymateb i gais am wasanaethau ffotograffiaeth, aeth Sue Oliver o RainbowBiz i gyfarfod Mel Cross o Ginger Pixie Photography i drafod sut y gallent gydweithio.听
Fe soniodd Sue wrth Mel am yr holl wasanaethau a phrosiectau y mae RainbowBiz yn eu darparu ar draws Sir y Fflint a鈥檙 effaith mae鈥檙 rhain yn ei gael ar fywydau rhai o aelodau mwyaf unig y gymuned, a chynigiodd Mel i gefnogi gwasanaethau ffotograffiaeth am flwyddyn yn rhad am ddim. Meddai:
鈥淩oedd hi鈥檔 arbennig iawn derbyn cynnig gwasanaethau proffesiynol gan fusnes masnachol sydd yn deall sut mae RainbowBiz yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl sydd yn ymgysylltu 芒鈥檔 prosiectau. Bydd modd i ni gael lluniau proffesiynol sydd fawr eu hangen a鈥檔 cynorthwyo i hyrwyddo ein gwasanaethau i bobl sydd ddim yn ymwybodol ein bod yn bodoli ar hyn o bryd.鈥
Ers derbyn grant sefydlu gan Gyngor Sir y Fflint yn 2014, mae RainbowBiz wedi bod yn datblygu a chyflwyno prosiectau cymunedol, gan gael cefnogaeth gan Swyddog Menter Gymdeithasol Sir y Fflint, gan gynnwys: Digging Deeside, rhaglen rhandiroedd cymunedol sydd wedi ennill gwobrau, cynllun C Card sef hyfforddiant ymwybyddiaeth rhywiol i bobl ifanc, Grwp Arty Folk and Friendship, sydd yn cynnig cyfle i roi cynnig ar gelf a chrefftau tra鈥檔 gwneud ffrindiau newydd, gwyliau Mind and Body sydd yn cael eu cyflwyno bob chwarter yn Theatr Clwyd, sydd yn denu dros 50 o fanwerthwyr celf a chrefftau a 1,500 o ymwelwyr i鈥檙 theatr.听
Mae RainbowBiz hefyd yn rhedeg siop ddillad ethnig yng nghanol yr Wyddgrug o鈥檙 enw RainbowBiz Hippy Shop sydd wedi cael ei ddatblygu鈥檔 benodol i greu鈥檙 incwm sydd yn angenrheidiol i redeg y prosiectau cymunedol.听
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygiad Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler:
鈥淢ae鈥檔 wych gallu dathlu鈥檙 cydweithio yma sy鈥檔 digwydd rhwng menter gymdeithasol a busnes masnachol, yn ogystal 芒 chydnabod yr holl waith menter cadarnhaol arall sy鈥檔 digwydd yn Sir y Fflint. Mae鈥檙 Cyngor yn deall pwysigrwydd mentrau cymdeithasol yn yr economi lleol ac rydym yn cynnig ein cefnogaeth lawn drwy鈥檙 Swyddog Menter Gymdeithasol.鈥
Ers cael y cynnig o gefnogaeth am ddim mae Mel wedi ymweld 芒 phrosiect Hippy Shop a Digging Deeside i dynnu lluniau proffesiynol.听 Dywedodd:
鈥淏ydd Ginger Pixie Photography yn dathlu ei bedwaredd flwyddyn mewn busnes yn fuan ac roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn 么l i'r gymuned eleni.听 Allwn i ddim meddwl am sefydliad mwy ysbrydoledig i weithio 芒 nhw鈥檔 agos a dwi鈥檔 edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda'r merched a鈥檜 t卯m trwy gydol 2019."
听