天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Gorfodi Amgylcheddol

Published: 11/04/2019

Gofynnir i Gabinet y Cyngor gymeradwyo鈥檙 protocol ar gyfer troseddau amgylcheddol bach a chyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer troseddau sbwriel a rheoli cwn pan fydd yn cwrdd yn ddiweddarach y mis hwn.听听

Gofynnir i Aelodau Cabinet gymeradwyo rhoi鈥檙 cyfle i Gynghorau Tref a Chymuned gefnogi swyddogion gorfodi ychwanegol yn eu hardaloedd eu hunain.听听

Yn dilyn yr adolygiad diweddar o Wasanaethau Gorfodi Amgylcheddol y Cyngor, mae swyddogion gorfodi鈥檙 Cyngor ei hun wedi ailddechrau derbyn cyfrifoldeb gorfodaeth ar gyfer holl droseddau amgylcheddol bach, fel sbwriel a rheoli cwn.听

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

鈥淏yddwn yn dibynnu ar feirniadaeth broffesiynol ein Swyddogion Gorfodi profiadol ein hunain i ymarfer cydbwysedd rhwng addysg a gorfodi, a鈥檙 Cyngor yn cymryd y camau gorfodi priodol yn erbyn y sawl sy鈥檔 taflu ysbwriel yn fwriadol.听听

鈥淢ae patrolio rheoli cwn yn parhau i ddigwydd mewn ardaloedd cyhoeddus, gan gynnwys ardaloedd sy鈥檔 destun Gorchymyn Man Agored Cyhoeddus, ac mae hyn yn cynnwys ein Swyddogion yn patrolio mewn dillad plaen. Fodd bynnag, mae swyddogion yn siarad gyda phawb sy鈥檔 cerdded eu cwn pan maent yn patrolio, gan addysgu o ran ardaloedd gwahardd a modd o gael gwared 芒 baw cwn yn briodol.听 听 Mae adroddiad diweddar gan y Bwrdd Iechyd, sy鈥檔 dangos y gall pobl gael haint a elwir yn tocsicariasis drwy drin baw neu dywod wedi鈥檌 heintio gyda baw anifeiliaid heintus, sy鈥檔 profi bod angen i bobl glirio baw eu cwn.鈥

Ar hyn o bryd mae yna saith o swyddogion gorfodi ar gyfer troseddau amgylcheddol fel sbwriel, baw cwn, cerbydau wedi eu gadael yn ogystal 芒 gorfodi parcio sifil.听 Mae trafodaethau ar y gweill gydag awdurdod cyfagos i rannu rhai swyddogaethau cefn swyddfa o bosibl.听 Os bydd hyn yn digwydd, gellir gwneud arbedion a rhyddhau cyllid i gynyddu鈥檙 nifer o swyddogion gorfodi.

Yn ogystal, gofynnir i鈥檙 Cabinet gymeradwyo argymhelliad i gysylltu 芒 Chynghorau Tref a Chymuned i weld os byddent yn helpu i gefnogi swyddogion gorfodi ychwanegol yn eu hardaloedd eu hunain.听