Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Tai Arbenigol
Published: 11/04/2019
Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn nes ymlaen yn y mis, bydd gofyn i aelodau nodi a chefnogi gwaith y Grwp Tai arbenigol i leihau鈥檙 nifer o bobl ar y gofrestr tai arbenigol.听听
Mae tai arbenigol, a elwir hefyd yn dai hygyrch yn bodloni anghenion grwp penodol o bobl gan gynnwys: pobl gydag anableddau, yn bennaf anableddau corfforol; a phobl hyn sydd yn llai symudol.听
Trwy fuddsoddi yng nghartrefi pobl a鈥檜 haddasu, rydym yn rhoi mwy o annibyniaeth ac urddas i'n preswylwyr.听
Mae gan y Cyngor Gofrestr Tai Arbenigol er mwyn cadw rhestr o鈥檙 holl aelwydydd lle mae preswylydd ag anabledd corfforol yn byw sydd angen ty hygyrch.听
Dywedodd Prif Swyddog Tai Cyngor Sir y Fflint, Neal Cockerton:听
鈥淢ae yna 52 aelwyd ar y Gofrestr Tai Arbenigol ar hyn o bryd. Yn ychwanegol, mae yna nifer sylweddol o aelwydydd ar Un Llwybr Mynediad at Dai sydd angen addasiadau lefel isel i鈥檞 galluogi i aros gartref.听 Mae Sir y Fflint wedi cymryd y cam rhagweithiol o adolygu鈥檙 rhwystrau yma i sicrhau bod yr amseroedd aros am yr addasiadau lefel isel yn cael eu lleihau a bod mwy o bobl yn cael eu cynorthwyo a鈥檜 cefnogi i barhau i fyw gartref.听
鈥淭rwy weithio gyda Chymdeithasau Tai partner ar y Grwp Tai Arbenigol rydym wedi llwyddo i ailgartrefu cyfanswm o 47 aelwyd mewn i lety mwy addas hyd yn hyn, ac wedi ail-leoli chwech arall dros dro, ac mae鈥檔 enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus.鈥澨
Nid yw鈥檙 niferoedd o aelwydydd sydd angen addasiadau lefel isel i鈥檞 heiddo i鈥檞 galluogi i barhau i fyw鈥檔 annibynnol yn eu cartrefi wedi cael eu cofnodi gan y Grwp Tai Arbenigol hyd yn hyn. Fodd bynnag, mae鈥檙 Grwp ar fin cynnal adolygiad i adnabod dull mwy effeithiol a theg o fynd i鈥檙 afael 芒'r galw am gartrefi hygyrch.听
听