Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Blynyddol Sir y Fflint
Published: 04/04/2019
Ydych chi鈥檔 chwilio am waith? Oes arnoch chi angen cyngor ynglyn 芒 sgiliau a hyfforddiant?听
Os felly, dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i wella eich siawns o gael gwaith.
Bydd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod 芒 chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rhwng 10am a 2pm, dydd Iau 11 Ebrill 2019.听
Bydd dros 65 o gyflogwyr a sefydliadau lleol gan gynnwys, ymhlith llawer o rai eraill, Aura Cymru, Sw Caer, Diogelwch Cyson, Kier construction, UPS, Betsi Cadwaladr / NHS, Wates Construction, Theatr Clwyd, McDonalds a Choleg Cambria yn y digwyddiad.
Bydd gweithdai ac arddangosiadau rhyngweithiol yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd a bydd cyngor ymarferol ar gael i鈥檆h helpu i ddod o hyd i swydd.听 Mae hyn yn cynnwys ardal wirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru yn ogystal 芒 "Gorsaf Geisiadau鈥.听 Bydd cynrychiolwyr addysg bellach ac uwch hefyd ar gael i drafod opsiynau hyfforddi a chyrsiau lleol hefyd.听 听
Gall cynrychiolwyr o Glwb Menter Cymunedau am Waith a Mwy eich cynghori ar gyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a鈥檆h cefnogi os hoffech chi sefydlu eich busnes eich hun.听
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647 neu Janiene Davies/Nia Parry yn Cymunedau Dros Waith ar 01352 704430.
听
听