天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Gwybodaeth ynghylch Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen

Published: 02/04/2019

Holywellextracare980300.jpgCynhelir digwyddiad gwybodaeth wythnos nesaf i ddarpar breswylwyr a鈥檜 teuluoedd, er mwyn iddynt gael gwybodaeth am Blas yr Ywen, ein cynllun gofal ychwanegol newydd yn Nhreffynnon a fydd yn costio 拢8.5m.

Estynnir gwahoddiad i aelodau鈥檙 cyhoedd i Ddiwrnod Gwybodaeth am Blas yr Ywen ar ddydd Mawrth 9 Ebrill 2019 rhwng 10am a 7pm yn Neuadd Ymarfer Treffynnon.

Darparir cynllun gofal ychwanegol Tai Wales & West mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y Fflint, a disgwylir iddo agor yn ystod y Gwanwyn 2020.

Lleolir y cynllun yn Ffordd Halkyn, a bydd yn cynnwys 55 o fflatiau i bobl 50 oed a throsodd, ac yn cynnig mynediad 24 awr y dydd i ofal a chymorth ar y safle.

Derbynnir ceisiadau gan bobl sy鈥檔 dymuno byw yn y cynllun am y tro cyntaf yn ystod y Diwrnod Gwybodaeth, a fydd yn gyfle i ofyn cwestiynau am y cyfleusterau ym Mhlas yr Ywen hefyd, ynghyd 芒 chostau byw a鈥檙 dewisiadau o ran gofal a chymorth.听

Bydd cynrychiolwyr o Dai Wales & West a Chyngor Sir y Fflint yno i gynnig cyngor ac arweiniad, a chynigir lluniaeth hefyd.

Dywedodd Anne Caloe, Rheolwr Symudiadau Tai 芒 Chymorth Tai Wales & West:听听

鈥淥 ystyried y bydd y cynllun yn agor yn ystod y Gwanwyn 2020, rydym yn barod i dderbyn ceisiadau gan y rhai y byddant yn breswylwyr cyntaf Plas yr Ywen.

鈥淏ydd y Diwrnod Gwybodaeth yn gyfle i bobl gael gwybod mwy am Blas yr Ywen mewn amgylchedd anffurfiol, ymlaciol.鈥�

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol, Cynghorydd Christine Jones:听听

"Bydd y cyfleuster hwn yn darparu gwasanaethau gofal yn y cartref o ansawdd uchel.

鈥淕an ymateb i鈥檙 galw am drefniadau gofal a chymorth, bydd y cynllun newydd hwn yn un blaengar iawn i Dreffynnon a Sir y Fflint, ac yn darparu fflatiau annibynnol, gan gynnwys fflatiau a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer pobl sydd 芒 dementia.鈥�

Mae Plas yr Ywen yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd gan Anwyl Construction, y partneriaid adeiladu, ar hen safle Ysgol Perth y Terfyn, sydd gerllaw lleoliad y Diwrnod Gwybodaeth.

Gellir mynychu鈥檙 digwyddiad yn rhad ac am ddim a bydd yn gweithredu fel sesiwn galw heibio rhwng 10am a 7pm yn Neuadd Ymarfer Treffynnon, Ffordd Halkyn.

I gael gwybod mwy, trowch at ein gwefan am gynllun gofal ychwanegol Plas yr Ywen, anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526.

听