Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad Cyfarfod yr Artistiaid - Gweithiau Celf Cyhoeddus ar Flaendraeth y Fflint - Dydd Sadwrn 6ed o Ebrill 2.30-4.30 yn Llyfrgell y Fflint
Published: 02/04/2019
听
Fel rhan o fenter adfywio'r Fflint, gwahoddodd y Rheolwr Prosiect curadurol Addo a Chyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth gyda Cadw, ac amrywiaeth o bartneriaid lleol, geisiadau gan artistiaid profiadol i gynhyrchu gweithiau celf ar gyfer y dref.听
Hysbysebwyd dau gomisiwn; Comisiwn Un 鈥� gwaith celf 鈥榚iconig' i gael ei leoli ar Flaendraeth y Fflint. Comisiwn Dau 鈥� Llwybr Celf yn cysylltu鈥檙 blaendraeth gyda鈥檙 dref fel rhan o fenter adfywio ehangach y tirlun unigryw a chymhellol hwn.听
Dewiswyd pum artist i'w rhoi ar y rhestr fer i gynhyrchu dyluniadau cychwynnol ar gyfer gwaith celf eiconig ar y blaendraeth. Bydd syniadau cychwynnol yr artistiaid yn ystyried ac yn ymateb mewn dull sensitif i鈥檙 nodweddion arwyddocaol cenedlaethol听 fel ardal heneb cofrestredig Castell Fflint. Dewiswyd pob un o鈥檙 artistiaid yn sgil eu brwdfrydedd ar gyfer y briff a鈥檜 gallu i gydweithio ag eraill wrth ddatblygu a chyflawni鈥檙 gweithiau celf. Bydd y syniadau cychwynnol, yn cael eu haddasu ymhellach a鈥檜 hesblygu, ac ar ddangos i鈥檙 cyhoedd yn Llyfrgell y Fflint rhwng 1 a 6 Ebrill. Caiff trigolion lleol gyfle i roi barn ar y dyluniadau cychwynnol a chyfarfod yr artistiaid i drafod eu syniadau mewn digwyddiad arbennig rhwng 2.30-4.30yp dydd Sadwrn 6 Ebrill yn Llyfrgell y Fflint.听 Bydd y sesiwn yn gyfle I weld dyluniadau cychwynnol o鈥檙 hwb cymnedol newydd arfaethedig ar gyfer y blaendraeth a fydd yn cynnwys cyfleusterau p锚l-droed, rygbi a chlwb cymdeithasol, canolfan i ymwelwyr a Gorsaf y Bad Achub.
Yr artistiaid ar y rhestr fer ydi:听
Manon Awst, mae hi鈥檔 artist ac ymchwilydd sydd wedi鈥檌 lleoli yng Nghaernarfon, sydd wedi creu cerfluniau safle-benodol a gosodiadau ar draws Ewrop听.
Mae Howard Bowcott wedi鈥檌 leoli yng ngogledd Cymru ac mae鈥檔 gweithio ar brosiectau celfyddydau ac adfywio trwy gydol y DU ac ymhellach i ffwrdd.听
Mae Richard Harris yn gwneud cerfluniau amgylcheddol enfawr ar safleoedd ar draws y byd ac mae wedi鈥檌 leoli yng nghanolbarth Cymru.听
Mae John Merril wedi鈥檌 leoli yng ngogledd Cymru ac mae鈥檔 cynhyrchu gweithiau celf cyhoeddus ar raddfa fawr sydd yn ymateb i dirluniau naturiol.听
Mae Rich White yn gwneud gosodiadau, sydd yn edrych ar y berthynas sydd yn datblygu rhwng pobl a鈥檜 hamgylchedd.听
I helpu i wella'r cysylltiad a naws rhwng y blaendraeth a chanol y dref, dewiswyd Grennan & Sperandio ar gyfer Comisiwn Llwybr Celf y Fflint. Mae鈥檙 ddau wedi鈥檜 lleoli yng ngogledd Cymru ac Unol Daleithiau America, ac maent yn hysbys am eu gweithiau celf perthynol, cymdeithasol a chydweithredol. Ffocws eu gwaith ydi defnyddio straeon a chymeriadau lleol.听
Dewisodd y grwp llywio adfywio a phartneriaid artistiaid a ddangosodd parodrwydd i drochi eu hunain ym mywyd a diwylliant yr ardal a chroesawu鈥檙 cyfle i weithio gyda grwpiau, cymunedau, busnesau lleol a'r t卯m prosiect adfywio yn ehangach (yn cynnwys penseiri datblygiad y blaendraeth) fel rhan annatod o鈥檜 hymarfer.听
I gael rhagor o wybodaeth am gomisiwn y Gwaith Celf Cyhoeddus a chomisiwn y Llwybr Gelf, cysylltwch 芒 Gwenno Eleri Jones gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk neu Tracy Simpson听tracy@addocreative.com
听
听