天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Awr Ddaear 2019

Published: 27/03/2019

Nos Sadwrn 30 Mawrth am 8.30pm, bydd Cyngor Sir y Fflint yn diffodd pob golau nad yw鈥檔 hanfodol yn swyddfeydd y Cyngor am awr i ddathlu Awr Ddaear 鈥 ymgyrch y Gronfa Natur Fyd-eang i amddiffyn ein planed.听

Y llynedd bu oddeutu deg miliwn o bobl yn cymryd rhan yn y Deyrnas Gyfunol. Gallwn gyflawni pethau mawr fesul tipyn, ac rydym oll yn meddu ar y grym i wneud gwahaniaeth. Eleni gofynnir i unigolion, busnesau a chymunedau godi llais ac addo i newid un peth yn eu bywydau beunyddiol a fydd yn helpu i amddiffyn ein planed. Gallai鈥檙 addewidion gynnwys defnyddio llai o blastig untro, cerdded i鈥檙 gwaith, bwyta llai o gig a chymryd rhan mewn prosiectau cadwraeth natur lleol.听

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu hefyd, a鈥檙 llynedd fe gynhyrchon ni 4.5 miliwn cilowat-awr o drydan o ffynonellau adnewyddadwy ac isel eu carbon, fel paneli solar ffotofoltaidd ac ynni鈥檙 gwynt. Gallai hynny bweru oddeutu 1,500 o gartrefi bob blwyddyn.听

Ond rydym am wneud mwy, drwy ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy a hyrwyddo a hwyluso cludiant gwyrdd a theisio llesol. Rydym hefyd yn ailystyried ein cysylltiadau 芒 byd natur ac yn plannu coed ledled y sir a fydd yn hanfodol er mwyn lliniaru ar newid yn yr hinsawdd ac addasu.

Bu鈥檙 Cyngor hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Plas Derw wrth ddylunio鈥檙 rhaglen Hyrwyddwyr Eco Sir y Fflint a鈥檌 gweithredu mewn nifer o ysgolion peilot. Mae hyn wedi canolbwyntio ar gynaladwyedd, gan gynnwys effeithiau newid yn yr hinsawdd, hybu bioamrywiaeth, lleihau gwastraff, arbed ynni a鈥檙 camau y gall disgyblion ac ysgolion eu cymryd.听

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:听

鈥淔e fydd Cyngor Sir y Fflint yn cymryd rhan yn y digwyddiad byd-eang hwn unwaith eto eleni. Rydyn ni eisoes wedi cymryd nifer o gamau i leihau ein h么l troed carbon ein hunain, gwella effeithlonrwydd ynni a gosod systemau gwresogi a chynhyrchu trydan adnewyddadwy ar ein hadeiladau a'n tai ein hunain. O ganlyniad i hynny cafwyd gostyngiad o 37% mewn allyriadau carbon o鈥檔 hadeiladau annomestig fel ysgolion a swyddfeydd. Yn 2017-18 cynhyrchodd y Cyngor 4.5 MW o drydan o ffynonellau adnewyddadwy ac isel eu carbon, sydd tua 5% o鈥檙 holl drydan y mae鈥檙 Cyngor yn ei ddefnyddio. Byddai hynny鈥檔 ddigon i bweru tua 1,500 o gartrefi, ac amcangyfrifir fod hyn wedi arbed 2,000 o dunelli o garbon.鈥

Rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn yr Awr Ddaear. Codwch eich llais dros well byd!

Am fwy o wybodaeth ac i wneud addewid ewch i .听