Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cod Ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi
Published: 14/03/2019
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi nodi鈥檙 cynnydd mewn perthynas 芒 gweithredu鈥檙 Cod Ymarfer Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a chymeradwyo datganiad ar gaethwasiaeth fodern.听
Nod Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru yw gwella arferion caffael yng Nghymru a sicrhau gwell budd cymdeithasol wrth wario arian cyhoeddus.听 Mabwysiadwyd y Cod gan Sir y Fflint fis Mehefin y llynedd.听
Mae鈥檙 Cod yma'n dod o fewn arferion a chredoau鈥檙 Cyngor ei hun, fel sefydliad sy鈥檔 gyfrifol yn gymdeithasol ac yn foesegol, ac wedi鈥檌 ymrwymo i fynd i鈥檙 afael 芒:
- chaethwasiaeth fodern
- cosbrestru
- hunangyflogaeth ffug听
- defnydd annheg o gynlluniau ymbar茅l a chontractau dim oriau听
- talu鈥檙 cyflog byw
Mae鈥檙 Cod yn cynnwys 12 o ymrwymiadau (sy鈥檔 cyfateb i 34 o gamau gweithredu) sy鈥檔 ceisio atal arferion cyflogaeth anfoesegol. O鈥檙 34 o gamau gweithredu, mae 21 wedi鈥檜 cwblhau. Un o鈥檙 camau gweithredu sydd heb eu cyflawni hyd yma yw cymeradwyo datganiad blynyddol ar gaethwasiaeth fodern sy'n disgrifio sut y bydd y cyngor yn dileu arferion anfoesegol o鈥檙 fath. Bydd gofyn i鈥檙 Cabinet gymeradwyo鈥檙 datganiad hwn yn y cyfarfod.听
Meddai鈥檙 Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:
鈥淢ae Sir y Fflint yn ymhyfrydu yn ei egwyddorion sydd wrth wraidd y Cod hwn. Rydym wedi bod yn gweithio鈥檔 galed i weithredu鈥檙 ymrwymiadau hyn ers i ni fabwysiadu鈥檙 Cod fis Mehefin y llynedd.听
鈥淔el sefydliad sy鈥檔 gyfrifol yn gymdeithasol a chorff cyhoeddus moesegol, rydym yn ceisio defnyddio ein gwariant ar waith, nwyddau a gwasanaethau i hyrwyddo'r economi leol, a thrwy ddefnyddio buddion cymunedol, achosion yr ydym yn eu cefnogi, megis darparu hyfforddiant a phrentisiaethau.听 Mae鈥檙 Cyngor yn croesawu鈥檙 ymrwymiadau o fewn y cod ymarfer, a'r cyfleoedd maent yn eu cynrychioli, i sicrhau ymhellach fod ei wariant caffael yn cefnogi ei nodau a'i werthoedd."
Mae'r Cyngor eisoes 芒 threfniadau ar waith drwy ei Reolau'r Gweithdrefn Contract ac arferion caffael, i atal ei gyflenwyr rhag defnyddio llawer o鈥檙 arferion hyn. Mae'r Cod yn estyniad ar arfer cyfredol, ond mae鈥檙 ymrwymiadau gofynnol o dan y Cod yn cefnogi gwerthoedd ac egwyddorion y Cyngor ei hun.
听