天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefniadau derbyniadau ysgolion ar gyfer 2020/21 

Published: 14/03/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cymeradwyo trefniadau derbyniadau ysgolion ar gyfer 2019/20.

Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori blynyddol gyda llywodraethwyr ysgol, awdurdodau esgobaethol a chynghorau cyfagos yn ystod mis Ionawr a Chwefror. Roedd yn ymwneud 芒 nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i ysgolion unigol, yn seiliedig ar feini prawf a rheoliadau cenedlaethol.听

Yn Sir y Fflint mae mwyafrif helaeth (tua 96%) o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu gyda nifer eithaf bychan o apeliadau. Disgwylir y bydd yr arfer lle mae mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael yn parhau yn arbennig ar lefel uwchradd mewn rhai ardaloedd o鈥檙 Sir o ganlyniad i garfan uwch ym Mlwyddyn 6 a dewis rhieni.

Roedd cyfanswm o 1228 (831 cynradd a 397 uwchradd) o drosglwyddiadau ysgolion yn ystod 2017/18 sy鈥檔 nifer debyg i awdurdodau eraill yng Nghymru.听 Er na ellir osgoi rhai trosglwyddiadau, gall unrhyw drosglwyddiad darfu ar addysg dysgwr, ac felly awgrymir fod y geiriad canlynol yn cael ei gynnwys yn y polisi:

鈥淣id yw鈥檙 Awdurdod Lleol yn annog trosglwyddiadau rhwng ysgolion, a gall newid ysgol yng nghanol tymor darfu鈥檔 ddifrifol ar ddilyniant addysg plentyn. Os yw rhieni yn teimlo fod problem yn yr ysgol mor ddifrifol fel bod rhaid newid yna anogir hwy i gymryd yr holl gamau rhesymol i ddatrys y mater gyda鈥檙 ysgol yn gyntaf ac wedyn ceisio cyngor gan y T卯m Derbyniadau os oes angen cyn gwneud cais am drosglwyddiad. Mewn achosion sy鈥檔 ymwneud 芒 cheisiadau am drosglwyddiad ysgol nad ydynt yn ymwneud 芒 symud ty, mae'r Awdurdod Lleol yn cadw鈥檙 hawl i drefnu i'r plentyn ddechrau'r ysgol newydd ar ddechrau鈥檙 hanner tymor nesaf i sicrhau鈥檙 amhariad lleiaf i鈥檞 haddysg hwy a phlant eraill. Mae gan bob ysgol uwchradd raglenni trawsnewid canol blwyddyn a fydd yn cefnogi disgyblion sy鈥檔 ymgymryd 芒 throsglwyddiad yng nghanol cyfnod. Mae鈥檙 rhaglenni'n cynnwys ymweliadau estynedig i'r ysgol gan rieni/gofalwyr a disgyblion".

Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes yn cynnwys geiriad tebyg yn eu polis茂au.

Mae newidiadau arfaethedig i'r niferoedd derbyn mewn dwy ysgol i adlewyrchu newidiadau yn yr adeiladau. Y rhain yw Ysgol Derwenfa, Coed-llai ac Ysgol Bryn Gwalia, Yr Wyddgrug. Yn y ddau achos mae鈥檙 niferoedd derbyn wedi bod yn gostwng yn dilyn ymgynghoriad gyda鈥檙 penaethiaid.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:听

"Rwy鈥檔 falch bod y rhan fwyaf o blant yn Sir y Fflint, unwaith eto, yn gallu mynychu'r ysgol y maent wedi'i dewis. Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i ddychwelyd eu ceisiadau ar-lein erbyn y dyddiad gofynnol. Hefyd hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer ymgynghori diweddar ac rwy鈥檔 hyderus y bydd mwyafrif llethol o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu.鈥