Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor sy鈥檔 ystyriol o ddementia
Published: 14/03/2019
Mae Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno bod y Cyngor yn datblygu鈥檔 sefydliad sy鈥檔 ystyriol o ddementia.听
Mae rhaglen Cymunedau a Sefydliadau Ystyriol o Ddementia Cymdeithas Alzheimer's yn ceisio annog pawb i rannu'r cyfrifoldeb o sicrhau bod pobl gyda dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyfrannu at eu cymunedau. Mae hyn yn canolbwyntio ar wella cynhwysiant ac ansawdd bywyd drwy ddarparu sesiynau hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth o fewn cymunedau a sefydliadau er mwyn iddynt ymateb i anghenion pobl gyda dementia a鈥檜 gofalwyr.听
Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae dementia yn flaenoriaeth mewn sawl cynllun corfforaethol. Er mwyn selio ein hymrwymiad i鈥檙 rhaglen hon hoffem ddod yn gyngor sy鈥檔 ystyriol o ddementia, y cyntaf yng ngogledd Cymru.听
鈥淣id ydym yn dechrau ar y gwaith hwn ar gychwyn stond. Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia a sut mae鈥檔 effeithio ar bobl yn ein cymunedau wedi bod yn rhan o鈥檔 gwaith ers blynyddoedd lawer. Mewn partneriaeth 芒 Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, rydym yn cyflogi Arweinydd Gwasanaeth Dementia i ddatblygu鈥檙 rhaglen hon yn lleol. Mae鈥檔 braf gennyf adrodd bod gan Sir y Fflint, hyd yma, wyth caffi, saith cymuned a thri sefydliad sy鈥檔 ystyriol o ddementia. Mae gennym eisoes nifer o adrannau yn y Cyngor sy鈥檔 鈥渄imau ystyriol o ddementia鈥 ac mae prif swyddogion a rhai aelodau etholedig hefyd wedi derbyn hyfforddiant.鈥澨
Mae Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 yn ymrwymo i ddatblygu cefnogaeth ac ymwybyddiaeth o ddementia ymhellach ar draws y sir drwy:
- Cynyddu nifer y cymunedau sy鈥檔 ystyriol o ddementia yn Sir y Fflint
- Gweithio mewn partneriaeth i gefnogi pobl 芒 dementia yn y gymuned听
Mae鈥檙 adroddiad yn cynnig sefydlu Grwp Llywio Cyngor Ystyriol o Ddementia a fydd, ymhlith pethau eraill, yn cyflwyno hyfforddiant cyfeillion dementia ar draws y Cyngor ac yn creu cefnogwyr dementia o fewn gwasanaethau.听
Mae鈥檙 broses o ddod yn gyngor ystyriol o ddementia yn debyg iawn i鈥檙 broses o ddod yn gymuned ystyriol o ddementia. Mae鈥檙 broses achredu yn cynnwys bodloni meini prawf penodol a chyflwyno cais ar-lein i鈥檙 Gymdeithas Alzheimer's am gydnabyddiaeth swyddogol. Bydd hyn yn galluogi Cyngor Sir y Fflint i ddefnyddio logos ac adnoddau 鈥楪weithio tuag at fod yn ystyriol o Ddementia鈥.
听