Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lansio Llwybr Treftadaeth newydd mewn tref yn Sir y Fflint
Published: 11/03/2019
Mae Menter Treftadaeth Treflun y Fflint wedi lansio ei Lwybr Treftadaeth arloesol yn llyfrgell y Fflint yn ddiweddar.听
Mae Menter Treftadaeth Treflun y Fflint (THI) yn brosiect partneriaeth rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref y Fflint a Chadw.听
Mae鈥檙 Llwybr Treftadaeth yn defnyddio dulliau digidol a thraddodiadol i ddod 芒 straeon treftadaeth y Fflint i gynulleidfa ehangach. Roedd y gymuned leol yn cyfrannu鈥檔 weithgar at y prosiect, gyda haneswyr lleol yn cynghori ar gynnwys, preswylwyr eraill yn darparu lluniau a grwpiau, gan gynnwys Cymdeithas Hanes y Fflint, Undeb Mamau y Fflint, Grwp Llyfrgell y Fflint a WI y Fflint ac Oakenholt, yn mwynhau gweld y ffilmiau CGI ar wahanol gamau eu datblygiad.听
Mae llyfryn lliw 56 tudalen wedi鈥檌 gynhyrchu sy鈥檔 cyflwyno hanes y dref ac yn tynnu sylw at bwyntiau allweddol o ddiddordeb o鈥檙 arfordir i ganol y dref.听 Dywedodd David Hanson, AS, a ysgrifennodd ragair y llyfryn:听
听鈥淢ae鈥檙 Fflint yn dref llawn hanes, a bydd lansio鈥檙 Llwybr Treftadaeth newydd ar gyfer y dref yn helpu i ddod 芒鈥檙 hanes hwn yn fyw.听 Rwy鈥檔 falch iawn mai fi gafodd ysgrifennu鈥檙 rhagair i鈥檙 llyfryn ac rwy鈥檔 gwybod y bydd y Llwybr Treftadaeth yn rhoi hwb i fusnesau yn y Fflint ac yn adfywio balchder pobl yn ein tref.听听
鈥淗offwn longyfarch pob un am eu gwaith diflino wrth wneud y prosiect hwn yn realiti.听 听 Mae gwybodaeth pob un a fu鈥檔 rhan yn y prosiect yn amlwg, a bydd yn sicrhau bod hanes y Fflint yn dod yn rhan annatod o鈥檌 ffyniant yn y dyfodol.鈥
Mae鈥檙 cyhoeddiad am ddim ar gael o Lyfrgell y Fflint.听
Mae llwybr digidol y gellir ei lawrlwytho ar gael hefyd.听 Mae hyn yn cynnwys elfennau ychwanegol megis adluniad CGI (delweddau wedi鈥檜 cynhyrchu gan gyfrifiadur), lluniau 'ddoe a heddiw' a nifer o glipiau sain a gemau hwyl. Mae disgyblion Ysgol Cornist Park yn cynnal prynhawn i rieni i ddangos sut mae'r llwybr digidol yn gweithio. I lawrlwytho'r llwybr chwiliwch am 'Flint, North East Wales' yn yr App Store neu Google Play.听
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:
鈥淢ae'r gwaith a gyflawnwyd gan Fenter Treftadaeth Treflun yn syfrdanol ac mae ei weithredu fel hyn yn nodedig.听 Bydd yn galluogi preswylwyr a thwristiaid i ddarganfod a mwynhau hanes cyfoethog y Fflint.听 Mae鈥檔 wych gweld bod myfyrwyr St Richard Gwyn ac Ysgol Cornist Park wedi cynorthwyo i ddatblygu鈥檙 llwybr trwy dynnu lluniau, cynhyrchu gwaith celf a chyfweld pobl.听
Mae鈥檙 llwybr, ynghyd 芒鈥檙 gwaith adfywio arall a wnaed yn y dref, am roi'r Fflint ar y map鈥.听
Mae tair ffilm wedi'u cynhyrchu yn dangos y dref mewn gwahanol gyfnodau: 1300, 1770 a 1905, gan ddefnyddio CGI. Mae鈥檙 llyfryn a鈥檙 llwybr digidol yn defnyddio sawl delwedd lonydd o'r ffilmiau. Mae鈥檙 ffilmiau ar gael i鈥檞 gweld ar wefan twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru: http://www.northeastwales.wales/things-events-holidays-break-ideas-within-corner-north-wales/flintshire/flint/ neu drwy chwilio am Dextravisual ar Youtube.听
Mae THI y Fflint, sydd wedi gorffen yn awr, wedi cynnig grantiau i adfer strydlun hanesyddol y dref ac i ganfod defnyddiau newydd ar gyfer adeiladau sydd wedi bod yn wag ers peth amser sydd 芒 chysylltiad treftadol. Mae cyfanswm o 24 o adeiladau wedi elwa o gymorth gan y cynllun a oedd yn cynnwys Eglwys y Santes Fair, Neuadd y Dref y Fflint a鈥檙 Hen Lys. Mae nifer yn credu bod y cynllun wedi bod yn hynod lwyddiannus yn y Fflint ac mae wedi cyflawni ei nod wreiddiol o adfer rhannau o strydlun hanesyddol y dref a dod ag adeiladau gwag allweddol yn 么l i ddefnydd cynaliadwy.听
听
听
听
听
听