天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arddangosfa gyhoeddus o gynigion ar gyfer datblygiad fferm solar yn safle tirlenwi'r Fflint.

Published: 06/03/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi hyrwyddo a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy carbon isel ers tro; o osod technolegau fel paneli solar ffotofoltaidd, pympiau gwres a thyrbinau gwynt yn adeiladau鈥檙 Cyngor a thai Cyngor i ddatblygu a gweithredu dwy fferm ynni solar ar hen safleoedd tirlenwi ym Mwcle. Yn wir, yn 2017-2018 cynhyrchodd y Cyngor 4.5 miliwn cilowat-awr o drydan drwy baneli solar ffotofoltaidd, y gwynt, nwyon tirlenwi a gwres a phwer cyfunedig. Mae hyn yn oddeutu 5% o ddefnydd trydan y Cyngor, neu鈥檔 gyfwerth 芒'r pwer a ddefnyddir mewn oddeutu 1,500 o gartrefi ac oddeutu 2,090 tunnell o garbon.聽

Bellach, dan y flaenoriaeth 鈥楥yngor Gwyrdd鈥� yng Nghynllun y Cyngor a鈥檙 Cynllun Gweithredu Ynni Adnewyddadwy, mae鈥檙 Cyngor yn ceisio ymestyn ei ymrwymiad i ynni adnewyddadwy drwy ddatblygu cynllun paneli solar ffotofoltaidd ar y ddaear yn yr hen safle tirlenwi ar Yst芒d Ddiwydiannol Parc y Castell, y Fflint. Y bwriad yw gosod 2 MW o baneli solar ffotofoltaidd ar y ddaear ac isadeiledd cysylltiedig fel gwrthdroyddion, trawsnewidyddion ac ati. Bydd hwn yn cynhyrchu oddeutu 1.8 miliwn KWh o drydan y flwyddyn sy鈥檔 ddigon i roi pwer i 700 o gartrefi, gan arbed oddeutu 800 tunnell o garbon y flwyddyn. Bydd hyn yn helpu lleihau allyriadau carbon; yn lliniaru newid hinsawdd a llygredd aer, a bydd hefyd yn cyfrannu tuag at darged lleihau carbon y Cyngor ei hun o 60% erbyn 2021 a tharged Llywodraeth Cymru o gynhyrchu 70% o鈥檌 ddefnydd trydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Mae cais cynllunio yn cael ei baratoi ac, fel rhan o鈥檙 ymgynghoriad cyn gwneud cais, mae鈥檙 Cyngor yn cynnal arddangosfa gyhoeddus rhwng 7fed mis Mawrth a 3ydd mis Ebrill yn Llyfrgell y Fflint, Heol yr Eglwys, y Fflint, CH6 5AP. Bydd cynrychiolwyr o鈥檙 Cyngor ac Asiant Cynllunio鈥檙 Cyngor; Stephenson Halliday ar gael ar 18 mis Mawrth i ateb unrhyw gwestiynau yn uniongyrchol. Bydd yr arddangosfa gyhoeddus yn darparu gwybodaeth ar y cynnig gan gynnwys lleoliad, dyluniadau, cynlluniau a dogfennau/ adroddiadau cynllunio drafft. Dyma鈥檙 cyfle i鈥檙 gymuned leol ddarparu adborth a sylwadau ar y datblygiad cyn i鈥檙 cais cynllunio gael ei gyflwyno鈥檔 ffurfiol.聽

Gellir cael gwybodaeth yn ymwneud 芒鈥檙 cynnig neu鈥檙 arddangosfa gyhoeddus drwy gysylltu ag Asiant Cynllunio鈥檙 Cyngor; Stephenson Halliday:

鈥� Post: Stephenson Halliday Ltd, 30 鈥� 32 Lowther Street, Kendal, Cumbria, LA9 4DH

鈥� e-bost: info@stephenson-halliday.com聽

鈥� Rhif Ff么n: 0141 204 7900

Bydd yr arddangosfa ar gael i鈥檞 gweld yn ystod oriau agor y llyfrgell:

鈥� Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener: 9am-5pm

鈥� Dydd Mawrth a Dydd Iau: 9am-6pm

鈥� Dydd Sadwrn: 9am-1pm

Gobeithir y bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried yn ffurfiol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ddiweddarach yn y gwanwyn.聽