天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Comisiynu Gweithiau Celf Cyhoeddus ar Flaendraeth y Fflint 

Published: 05/03/2019

Fel rhan o fenter adfywio'r Fflint, gwahoddodd y Rheolwr Prosiect curadurol Addo a Chyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth gyda Chadw, ac amrywiaeth o bartneriaid lleol, geisiadau gan artistiaid profiadol i gynhyrchu gweithiau celf ar gyfer y dref.听

Hysbysebwyd dau gomisiwn, Comisiwn Un 鈥� gwaith celf 鈥榚iconig' i gael ei leoli ar Flaendraeth y Fflint. Comisiwn Dau 鈥� Llwybr Celf yn cysylltu鈥檙 blaendraeth gyda鈥檙 dref fel rhan o fenter adfywio ehangach y tirlun unigryw a chymhellol hwn.听

Dewiswyd pum artist i'w rhoi ar y rhestr fer i gynhyrchu dyluniadau ysgogol cychwynnol ar gyfer gwaith celf eiconig ar y blaendraeth. Dewiswyd pob un yn sgil eu brwdfrydedd ar gyfer y briff a鈥檜 gallu i gydweithio ag eraill wrth ddatblygu a chyflawni鈥檙 gweithiau celf. Bydd y dyluniadau ar ddangos i鈥檙 cyhoedd yn Llyfrgell y Fflint rhwng 1 a 6 Ebrill. Caiff trigolion lleol gyfle i roi sylw am y dyluniadau cychwynnol a chwrdd 芒鈥檙 artistiaid i drafod eu syniadau.听

Yr artistiaid ar y rhestr fer ydi:听

Manon Awst, mae hi鈥檔 artist ac ymchwilydd sydd wedi鈥檌 lleoli yng Nghaernarfon, sydd wedi creu cerfluniau safle-benodol a gosodiadau ar draws Ewrop https://manonawst.com听

Mae Howard Bowcott wedi鈥檌 leoli yng ngogledd Cymru ac mae鈥檔 gweithio ar brosiectau celfyddydau ac adfywio trwy gydol y DU ac ymhellach i ffwrdd.听

Mae Richard Harris yn gwneud cerfluniau amgylcheddol enfawr ar safleoedd ar draws y byd ac mae wedi鈥檌 leoli yng nghanolbarth Cymru.听

Mae John Merril wedi鈥檌 leoli yng ngogledd Cymru ac mae鈥檔 cynhyrchu gweithiau celf cyhoeddus ar raddfa fawr sydd yn ymateb i dirluniau naturiol.听

Mae Rich White yn gwneud gosodiadau, sydd yn edrych ar y berthynas sydd yn datblygu rhwng pobl a鈥檜 hamgylchedd.听

I helpu i wella'r cysylltiad a naws rhwng y blaendraeth a chanol y dref, dewiswyd Grennan & Sperandio ar gyfer Comisiwn Llwybr Celf y Fflint. Mae鈥檙 ddau wedi鈥檜 lleoli yng ngogledd Cymru ac Unol Daleithiau America, ac maent yn hysbys am eu gweithiau celf perthynol, cymdeithasol a chydweithredol. Ffocws eu gwaith ydi defnyddio straeon a chymeriadau lleol.听

Dewisodd y grwp llywio adfywio a phartneriaid artistiaid a ddangosodd parodrwydd i drochi eu hunain ym mywyd a diwylliant yr ardal a chroesawu鈥檙 cyfle i weithio gyda grwpiau, cymunedau, busnesau lleol a'r t卯m prosiect adfywio yn ehangach (yn cynnwys penseiri datblygiad y blaendraeth) fel rhan annatod o鈥檜 hymarfer.听

I gael rhagor o wybodaeth am gomisiwn y Gwaith Celf Cyhoeddus a chomisiwn y Llwybr Gelf, cysylltwch 芒 Gwenno Eleri Jones gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk neu Tracy Simpson tracy@addocreative.com听

Mae Prosiect Adfywio Blaendraeth y Fflint yn dymuno datblygu canolfan gymunedol arloesol a modern newydd ger safle鈥檙 castell a fydd yn cynnwys cyfleusterau p锚l-droed, rygbi a chlwb cymdeithasol, canolfan i ymwelwyr a Gorsaf y Bad Achub. Bydd gan y gweithiau celf berthynas symbiotig gyda鈥檙 castell a bydd yn ysgogol ac ystyrlon. Bydd y deunyddiau a ddefnyddir yn sympathetig ac ni fyddant yn tynnu sylw oddi ar yr amgylchedd hanesyddol a harddwch aber Afon Dyfrdwy.听听

听