天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gofyn am eich barn ar gynigion rheoli traffig a lonydd bws newydd

Published: 27/02/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer datrysiad trafnidiaeth integredig ac mae wedi datblygu nifer o fesurau i oresgyn y cynnydd mewn traffig ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a鈥檙 ardaloedd cyfagos.

Mae鈥檙 mesurau hyn hefyd yn cefnogi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Metro Gogledd Ddwyrain Cymru fydd yn bwysig i gysylltu pobl, cymunedau a busnesau ar gyfer swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau ar draws y rhanbarth.听

Bydd Metro Gogledd Ddwyrain Cymru yn darparu canolbwynt trafnidiaeth integredig o fudd i deithwyr a busnesau o fewn Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, y Parth Menter ehangach a thu hwnt.听

Mae cam nesaf y cynllun yn canolbwyntio ar lonydd bws arfaethedig ar hyd y B5129 o Queensferry i L么n Shotton a mesurau arbed amser siwrnai o Shotton i Gei Connah.听 听听

Mae鈥檙 Cyngor yn gofyn am eich barn ar y mesurau arbed amser teithio hyn a lonydd bws a beicio dynodedig ar hyd y B5129 yn ymestyn o Queensferry i Gei Connah.听 听听

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 27 Chwefror hyd at hanner nos ar ddydd Gwener, 22 Mawrth.

Rydym yn cynnal y digwyddiadau gwybodaeth i'r cyhoedd canlynol lle gallwch weld gwybodaeth bellach am y cynllun arfaethedig. Gallwch gwrdd 芒鈥檔 t卯m prosiect fydd yn ateb unrhyw gwestiynau gennych.听

Dydd Mawrth 5 Mawrth 11:00 - 20:00

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy - Chester Road West, Queensferry CH5 1SA

Dydd Mercher 6 Mawrth 11:00 - 20:00

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy - Chester Road West, Queensferry CH5 1SA

Dydd Llun 11 Mawrth 16:00 - 19:30

Ysgol Croes Atti, Plymouth Street, Shotton, Glannau Dyfrdwy CH5 1JD

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

鈥淩ydw i鈥檔 falch iawn ein bod yn bwrw 鈥榤laen gyda gweledigaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir y Fflint a Gogledd Cymru, i gysylltu pobl gyda鈥檙 ardal waith pwysig hon. Rwy鈥檔 annog pawb i gyfrannu a dweud eu dweud ar y datblygiad pwysig iawn ar gyfer ein hardal. Bydd y cynllun cyffredinol yn integreiddio pob dull trafnidiaeth i annog gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar.鈥

Gallwch weld y ddogfen ymgynghori yn: (print bras, braille ac iaith arall o鈥檙 ddogfen hon ar gael ar gais drwy anfon e-bost at lee.shone@flintshire.gov.uk, rhowch 鈥淏5129 鈥 cynigion mesurau traffig鈥 fel pennawd.

Er mwyn ymateb, llenwch yr arolwg ymateb neu llenwch gopi papur a鈥檌 ddychwelyd i鈥檙 cyfeiriad/e-bost a restrwyd.听