Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hysbysiadau o Le mewn Ysgol Uwchradd
Published: 19/02/2019
Mae disgwyl i鈥檙 Cyngor hysbysu rhieni cyn bo hir o鈥檌 ddyraniadau ar gyfer derbyniadau i ysgolion yn barod at flwyddyn academaidd 2019/20.
Mae problem gyda鈥檙 system feddalwedd derbyniadau ysgolion wedi golygu bod cynigion am leoedd mewn ysgolion uwchradd wedi cael eu e-bostio at rai rhieni cyn eraill, a chyn y dyddiad a gynlluniwyd sef 1 Mawrth.听 Mae'r wybodaeth yn y llythyr i'r rhieni hyn yn gywir.
Mae鈥檙 Cyngor wedi gweithredu i sicrhau y bydd e-bost yn cael ei anfon at bawb sydd wedi gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd gyda chanlyniad eu cais erbyn diwedd y dydd heddiw.
Mae鈥檙 Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra neu bryder a achoswyd ar 么l i rai ymgeiswyr gael eu canlyniadau cyn eraill.
Nid yw鈥檙 mater hwn yn effeithio ar weddill yr amserlen sydd wedi鈥檌 chyhoeddi ar gyfer derbyniadau ysgolion.