Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 a Chynllun Busnes
Published: 18/02/2019
Ddydd Mawrth, 19 Chwefror, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo ac argymell cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 a chrynodeb o Gynllun Busnes 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai i鈥檙 Cyngor.聽
Mae鈥檙 Cynllun Busnes 30 mlynedd Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys y rhaglen adeiladu tai cyngor uchelgeisiol, trwsio a chynnal a chadw cartrefi, gwella鈥檙 stoc a gwelliannau amgylcheddol, rheoli cymdogaethau gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofalu am ystadau, casglu incwm a chyfranogiad y cwsmeriaid ar gyfer 7,300 o eiddo鈥檙 Cyngor.聽
Mae鈥檙 Cyngor yn gorfod cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer lefelau rhent tai cyngor dros amser, ac mae'r fformiwla ar gyfer gosod rhenti bob blwyddyn hefyd yn cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru. Mae鈥檙 modd mae rhenti yn cael eu cyfrif ar hyn o bryd (Mynegai Prisiau Defnyddwyr 鈥淐PI鈥 + 1.5% + hyd at 拢2 yr wythnos) yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019.聽 Ar gyfer 2019/20 yn unig, bydd polisi dros dro yn berthnasol fydd yn gweld ymgodiad blynyddol wedi鈥檌 osod ar CPI yn unig 鈥 e.e. 2.4%.聽 Hefyd gall Landlordiaid Cymdeithasol ond rhoi 鈥渉yd at 拢2 yr wythnos鈥 os yw鈥檙 rhent wythnosol cyfartalog yn is na鈥檜 Band Rhent Targed.
Bydd hwn am flwyddyn nes bydd yr Adolygiad o Gyflenwad Tai Fforddiadwy a gynhelir gan Lywodraeth Cymru wedi鈥檌 gwblhau.
Mae disgwyl i renti garejis gynyddu 拢1 yr wythnos ac mae cynnig i rent am ddarn o dir ar gyfer garej gynyddu 拢0.20 yr wythnos.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
鈥淢ae 拢22.9 miliwn wedi鈥檌 gynnwys yn rhaglen gwella Tai Cyngor ar gyfer 2019/20. Mae鈥檔 cynnwys darpariaeth ar gyfer gwaith mewnol (ceginau ac ystafelloedd ymolchi), gwaith allanol (ffenestri, drysau, toeau, cwterydd, ac ati), rhaglenni amgylcheddol, addasiadau i bobl anabl a gwaith i arbed ynni a chaffaeliad strategol.聽
鈥淵n ogystal, mae yna 拢11.3miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau adeiladu tai鈥檙 Cyngor i sicrhau bod mwy o dai cyngor yn cael eu hadeiladu yn ystod 2019/20.鈥