天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Dai a Chynllun Gweithredu 2019-2024

Published: 15/02/2019

Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint adolygu鈥檙 Strategaeth Dai a Chynllun Gweithredu drafft ar gyfer 2019-2024 pan fydd yn cyfarfod ar 18 Chwefror.

Mae Strategaeth Dai a Chynllun Gweithredu drafft Sir y Fflint yn cynnwys y weledigaeth ynglyn 芒 sut y bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn diwallu ein hanghenion o ran tai fforddiadwy, darparu鈥檙 gefnogaeth berthnasol i鈥檔 trigolion a sicrhau ein bod yn creu cartrefi cynaliadwy.

Mae鈥檔 cynnwys 3 blaenoriaeth:

Blaenoriaeth 1: Cynyddu cyflenwad i ddarparu鈥檙 math cywir o gartrefi yn y lleoliad cywir drwy adeiladau newydd, defnyddio鈥檙 sector rhentu preifat, a defnydd gwell o stoc bresennol.

Blaenoriaeth 2: Darparu cefnogaeth i sicrhau bod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o gartref drwy gefnogaeth fydd yn atal pobl ddiamddiffyn rhag bod yn ddigartref a鈥檜 cynnal yn eu cartrefi.

Blaenoriaeth 3: Gwella ansawdd a chynaliadwyedd ein cartrefi gan gynnwys mynd i鈥檙 afael 芒 thlodi tanwydd drwy fesurau arbed ynni.

Roedd y Strategaeth Dai flaenorol yn cyflawni nifer o gyflawniadau gan gynnwys:

路听听听听听听 Adeiladu dros 300 o dai cymdeithasol a fforddiadwy newydd ar draws Sir y Fflint:

路听听听听听听 Gweithio gyda鈥檙 datblygwyr preifat i ddarparu 134 o unedau ecwiti rhannu perchnogaeth fforddiadwy;

路听听听听听听 Adfywio canol tref y Fflint drwy ddisodli鈥檙 fflatiau deulawr gyda 62 o eiddo rhent fforddiadwy a 30 o eiddo cymdeithasol i鈥檞 rhentu;

路听听听听听听 Darparu rhan sylweddol o Safon Ansawdd Tai Cymru ar y stoc dai Cyngor a鈥檔 stoc Cymdeithas Tai partner.

Meddai Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

鈥淏ydd y Strategaeth Dai newydd yn adeiladu ar y cyflawniadau blaenorol hyn o fewn cyd-destun yr heriau presennol a wynebir gennym, fel diwygio'r gyfundrefn les, y cynnydd mewn digartrefedd 鈥榗udd鈥 ac adnoddau sy鈥檔 gynyddol gyfyngedig. Mae鈥檙 Strategaeth yn cynnwys uchelgeisiau鈥檙 Cyngor i ddiwallu anghenion tai trigolion Sir y Fflint yn y dyfodol.鈥

Bydd yna ymgynghoriad ehangach ar y strategaeth yn ystod mis Mawrth gyda鈥檙 fersiwn terfynol o鈥檙 strategaeth yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn 2019.听 Mwy o fanylion i ddilyn ar hyn.