天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yn galw pob cyflogwr a sefydliad!

Published: 05/02/2019

Ydi eich sefydliad eisiau cymryd rhan yn Nigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Blynyddol Sir y Fflint?

Mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint, y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn galw ar gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau lleol i gymryd rhan yn y digwyddiad sydd i鈥檞 gynnal yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rhwng 10am a 2pm ddydd Iau, 11 Ebrill 2019.

Bydd yn gyfle gwych i hyrwyddo eich busnes a dod o hyd i weithwyr posibl. 听Y llynedd, mynychodd 500 o bobl y digwyddiad, a cafodd ei gefnogi gan 20 o ddarparwyr a 52 cyflogwr, gyda dros 500 o swyddi gwag ar gael mewn amrywiaeth o sectorau. 听

Hefyd, bydd cymorth ymarferol ar gael gan gynnwys ardal wirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru.听 Bydd cynrychiolwyr addysg bellach ac uwch hefyd ar gael i drafod opsiynau hyfforddi a chyrsiau lleol.听

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Nia Parry neu Janiene Davies yn Cymunedau am Waith ar 01352 704430 neu Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647.