Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mwy o lwyddiant yn Adeiladu Dyfodol
Published: 01/02/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檌 bartner, Wates Residential North, yn dathlu llwyddiant rhaglen 鈥淎deiladu Dyfodol鈥 arall -聽 y bedwaredd raglen i鈥檞 chynnal yn y sir.聽
Mae鈥檙 cyrsiau hyfforddi pythefnos dwys hyn wedi gweld pobl leol yn cael swyddi mewn labro, gwaith tir a gosod ffenestri, neu brentisiaethau mewn meysydd amrywiol, yn cynnwys gosod brics a gwaith trydanol.
Cafodd 13 o bobl eu recriwtio drwy raglen Cymunedau am Waith Sir y Fflint a Chymunedau am Waith a Mwy sy鈥檔 gweithio gyda phobl sy鈥檔 wynebu鈥檙 rhwystrau mwyaf i gael eu cyflogi.聽
Roedd y rhaglen hyfforddi, a gynhaliwyd yn swyddfa Wates yn Yr Wyddgrug, yn cynnwys sesiynau sgiliau crefftau adeiladu, gan gynnwys gwaith coed a chynnal a chadw yn ogystal 芒 gweithdai ysgrifennu CV a chyfweliadau gyda Wates Residential a鈥檜 partneriaid cadwyn gyflenwi.聽
Fe wnaethant gwblhau cwrs BTEC Lefel 1 mewn adeiladu a sesiynau sgiliau gwaith coed a chynnal a chadw ymarferol ar safle adeiladu Wates ym Maes Gwern yn Yr Wyddgrug. Llwyddodd yr holl gyfranogwyr i gael eu cardiau Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS). Mae cardiau CSCS yn darparu prawf bod unigolion sy鈥檔 gweithio ar safleoedd adeiladu wedi derbyn yr hyfforddiant a鈥檙 cymwysterau angenrheidiol ar gyfer y math hwnnw o waith, felly bydd hyn yn rhoi dechrau da iddynt yn eu gyrfaoedd adeiladu.聽
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint a gyflwynodd y tystysgrifau i鈥檙 cyfranogwyr:聽
聽鈥淩wyf yn hynod falch o gyflwyno鈥檙 tystysgrifau hyn i鈥檙 hyfforddeion鈥 y bedwaredd garfan lwyddiannus yn Sir y Fflint. Rydym yn gweithio tuag at gyflwyno mwy o brentisiaethau yn y sir, yn arbennig ym maes adeiladu.聽 Da iawn i bob un ohonoch am gymryd y cam cyntaf a chwblhau鈥檙 rhaglen hon.聽 Rydych i gyd wedi bod yn bresennol bob dydd ac wedi cyflawni cymwysterau defnyddiol.聽 Mae llawer o gyfleoedd ar gael i chi ddatblygu鈥檙 hyn yr ydych wedi鈥檌 gyflawni hyd yma.鈥澛
Dywedodd Paul Dodsworth, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Construction and Residential North:聽
鈥淢ae ein partneriaeth hirdymor gyda Chyngor Sir y Fflint yn ein rhoi mewn safle unigryw i gynhyrchu ffrwd o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i bobl leol. Mae gweld ein t卯m yn cyflawni鈥檙 bedwaredd rhaglen Adeiladu Dyfodol yn Sir y Fflint yn dangos cryfder ein hymrwymiad i sicrhau fod ein gwaith yn y sir yn cael effaith gadarnhaol ar ei dinasyddion ac edrychwn ymlaen i barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn.鈥
Mae darparu Adeiladu Dyfodol yn rhan o swyddogaeth Wates Residential North fel datblygwr arweiniol ar gyfer Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor, a fydd yn gweld 500 o gartrefi newydd yn cael eu creu ledled Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf.
Achredwyd gan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF). Mae Adeiladu Dyfodol yn rhoi cymhwyster FfCCh Lefel 1 mewn Crefftau Adeiladu a chofrestriad CSCS i ymgeiswyr i鈥檞 helpu i sicrhau hyfforddiant a phrofiad gwaith ar safleoedd adeiladu yn y dyfodol.