天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Ddoe a Heddiw Talacre

Published: 25/01/2019

听

then.jpgnow.JPGMae hanes ar fin dod yn fyw yn Nhalacre!

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi derbyn nawdd i ddathlu鈥檙 newidiadau yn y pentref, o hyfforddiant y Spitfire yn yr Ail Ryfel Byd i ardal gwyliau heddiw, a phopeth rhwng hynny.听

Mae "Talacre Now and Then" wedi derbyn grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri o 拢30,100. Ychwanegwyd grant o 拢15,400 o Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i ganolbwyntio ar elfennau Ail Ryfel Byd y prosiect. Yn ychwanegol at hynny, mae elfennau addysgol y prosiect yn cael eu cefnogi gan grant o 拢2,000 gan brosiect Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru.听

Caiff y prosiect ei gynnal drwy gydol 2019 a bydd yn dathlu鈥檙 lle arbennig mae Talacre yn ei gadw yng nghalonnau gymaint o bobl ar draws Gogledd Cymru ac ardal Gogledd-orllewin Lloegr, ac yn edrych ar sut y mae wedi newid o atgofion pobl heddiw.听

Bydd y cyfryngau digidol a thraddodiadol yn helpu pobl leol, ymwelwyr a phlant ysgol i ddychmygu sut roedd yn edrych a sut beth oedd byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal 芒鈥檙 degawdau a ddilynodd, pan newidiodd i fod yn gyrchfan gwyliau.听

Mae Talacre鈥檔 parhau i fod yn gyrchfan gwyliau poblogaidd heddiw, ac mae鈥檔 ardal bwysig ar gyfer byd natur ar raddfa rhyngwladol.听

Roedd Talacre yn lle hollol wahanol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda nifer o faciw卯s yn dianc rhag bomiau Lerpwl i aros mewn cytiau syml a adeiladwyd yn y twyni. Gwelwyd a chlywyd y rhyfel o鈥檙 awyr uwch eu pennau, gydag ymladd a golygfeydd o fomiau yn disgyn ar Lerpwl dros y dwr. Roedd y twyni ac ardaloedd y traeth yn cael eu defnyddio am hyfforddiant Spitfire, ac mae gweddillion caerau tanddaearol a rhesi o byst llarwydd, wedi鈥檜 gosod yn wreiddiol i atal ymosodiad gan yr elyn, i鈥檞 gweld hyd heddiw.

O ganlyniad i鈥檙 ymarfer targed a鈥檙 ymladd uwchben, roedd y traethau鈥檔 llawn bwledi a chetris. Mae cenedlaethau o bobl ifanc wedi casglu鈥檙 rhain ac maent yno i鈥檞 gweld o hyd.

Roedd sawl un a ddaeth yma yn ystod y Rhyfel yn penderfynu aros yn yr ardal yn hytrach na dychwelyd i weddillion Lerpwl, felly mae cymysgedd ddiwylliannol ddiddorol o Gymru a Lloegr. Ar 么l y Rhyfel, daeth yr ardal yn gyrchfan poblogaidd gyda thwristiaid, gan ddenu miloedd o ymwelwyr o Lerpwl a Manceinion. Roedd ymwelwyr cynnar yn aros yn y twyni mewn siediau pren, hen fysiau a hen gerbydau tr锚n hyd yn oed. Roedd sawl un o鈥檙 ymwelwyr cynnar hyn yn dychwelyd dro ar 么l tro, gan ddod 芒鈥檜 plant gyda nhw, a nawr, eu hwyrion.听

Roedd tymor yr haf yn hir ddisgwyliedig i鈥檙 bobl leol hefyd. Roedd pobl ifanc yr ardal yn ennill pres poced drwy gludo bagiau o鈥檙 orsaf drenau (sydd wedi cau ers amser maith, bellach) i鈥檙 cartrefi gwyliau ac yn mwynhau鈥檙 atmosffer bywiog oedd yn cael ei greu gan bobl ar wyliau.听

Bydd y rhain, a gymaint mwy o atgofion yn ganolbwynt i brosiect Talacre "Then and Now" a byddant yn cael eu casglu yn ystod 鈥楽iop Stori鈥� yng Nghanolfan Gymunedol Talacre yn ystod gwyliau鈥檙 Pasg. Bydd ymwelwyr i鈥檙 鈥楽iop Stori鈥� yn gallu mwynhau arddangosfeydd, gan gynnwys hen luniau, mapiau straeon digidol, a gwrthrychau. Bydd yn cynnwys stiwdio recordio hefyd, lle i ofyn cwestiynau a dod 芒 phobl at ei gilydd. Estynnir gwahoddiad i bobl ddod 芒鈥檜 deunyddiau eu hunain, a bydd y cynnwys yn newid ac yn tyfu dros amser. Bydd y deunyddiau sy鈥檔 cael eu casglu o鈥檙 鈥楽iop Stori鈥� a gwaith ymchwil pellach yn cael eu defnyddio i lunio llyfryn o atgofion a thrywydd digidol.听

Bydd llwybr Ail Ryfel Byd drwy鈥檙 twyni yn cael ei greu ynghyd 芒 ffilm CGI (delweddau a gynhyrchwyd gan gyfrifiaduron) yn dangos y Spitifre yn hyfforddi uwchben y twyni yn helpu ymwelwyr i ddeall sut effeithiwyd yr ardal gan gyfnod y rhyfel. Bydd ysgolion lleol yn cael cyfle i ymweld 芒鈥檙 twyni, cwrdd 芒 rhai sy鈥檔 ail-fyw鈥檙 cyfnod a defnyddio chwarae r么l i ddychmygu sut beth oedd bywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.听

Bydd uchafbwynt gweithgareddau鈥檙 Ail Ryfel Byd yn dod i ben gyda phenwythnos strafagansa Ail Ryfel Byd ar 27 a 28 Gorffennaf, gydag actorion, copi o鈥檙 Spitfire, teithiau cerdded tywysedig a gweithgareddau i鈥檙 teulu.听

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:听

"Mae鈥檔 newyddion gwych ein bod wedi cael y grantiau hyn, sy鈥檔 ein caniat谩u i ddatblygu atyniad twristaidd ac addysgol ar gyfer yr ardal hanesyddol, bwysig hon. Rydw i鈥檔 edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu wrth i鈥檙 flwyddyn fynd yn ei blaen a chroesawu ymwelwyr i鈥檔 sir brydferth ni."听

Dywedodd Adrian Hughes, Comodor yr Awyrlu, yn cynrychioli鈥檙 Lluoedd Arfog:听

"Mae鈥檙 Lluoedd Arfog wedi bod wrth eu boddau yn cefnogi prosiect "Talacre Then and Now". Mae gan yr ardal hon hanes gyfoethog o鈥檙 Ail Ryfel Byd, gydag awyrennau Spitfire a Hurricane yn ymladd yn yr awyr uwchben wrth amddiffyn Lerpwl rhag bomiau鈥檙 Nazi yn 1941, ynghyd 芒鈥檙 caerau tanddaearol ac amddiffynfeydd a osodwyd ar draeth Talacre yn ystod y cyfnod i amddiffyn ein gwlad rhag ymosodiad.听听

"Mae鈥檔 wych cael ailadrodd y stori, yn enwedig i genedlaethau newydd, ac mae鈥檙 RAF yn edrych ymlaen at ymuno 芒 chi am yr agoriad swyddogol yn ddiweddarach yn yr haf."听

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cymru:

"Mae prosiect "Talacre Then and Now" yn brosiect arbennig, sy鈥檔 dangos yn glir sut y gall treftadaeth leol fod yn gatalydd i lawer o wahanol weithgareddau a dod 芒 phobl at ei gilydd gydag un pwrpas. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn falch o gefnogi Cyngor Sir y Fflint yn ei gynlluniau i recriwtio gwirfoddolwyr o bob oedran, cynnig sgiliau a hyfforddiant, a diolch i chwaraewyr y Loteri Cenedlaethol, galluogi i bobl fwynhau鈥檙 hanes ar eu stepen drws eu hunain.听

"Mae nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn trawsnewid cymunedau ar draws y DU, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol a hirdymor i fywydau pobl; ac mae hyn yn ddiolch i chwaraewyr y Loteri Cenedlaethol."听

Os hoffech chi wirfoddoli ar unrhyw agwedd o鈥檙 prosiect neu鈥檔 dymuno rhannu eich atgofion o Dalacre, cysylltwch 芒 keystoneheritage.info@gmail.com.听

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch 芒 Kim Norman ar 01745 881237 neu anfonwch neges e-bost at Kim.Norman@external.eni.com.