Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant ar gwrs Arweinwyr Ifanc
Published: 18/01/2019

Arweinwyr Ifanc: Shannon Roberts, David Peters, Eboni James, Cerys Lyons, Ryan Hughes, Kaelin Corran, Abby Tudor, Phoebe Woodward, Connor Roberts, Owen Butler
听
听
听
听
听
听
Yn ddiweddar mae Cyngor Sir y Fflint a Phrifysgol Glyndwr Wrecsam wedi bod yn cydweithio er mwyn cynnal y cwrs 鈥淎rweinwyr Ifanc鈥 cyntaf.听
Datblygwyd y cwrs gan Ann Roberts, Uwch-reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint, er mwyn mynd i'r afael 芒'r diffyg arweinwyr ifanc cymwysedig ar gyfer gwaith darpariaeth ieuenctid y dyfodol.听
Mae Glyndwr wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Sir y Fflint i sicrhau bod y cwrs peilot yn darparu hyfforddiant unigryw i'r holl bobl ifanc sy鈥檔 rhan ohono. Roedd y cwrs yn cynnwys pum niwrnod o astudio.听听
Cafodd y bobl ifanc eu recriwtio o glybiau ieuenctid lleol a darpariaeth y sector ieuenctid. Roedd yn bwysig iddynt ddangos diddordeb mewn bod yn weithwyr yn y dyfodol a chyflwyno potensial.听 听 听 听 听 听 听 听 听听
Dywedodd Ann Roberts:
鈥淏u鈥檙 arweinwyr ifanc yn gweithio ar bynciau amrywiol gan gynnwys gwerthoedd ac egwyddorion Gwaith Ieuenctid, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau鈥檙 Plentyn, cyfleoedd cyfartal, anghenion pobl ifanc a chyfathrebu. Fe wnaethant hefyd gwblhau deg awr wyneb yn wyneb o fewn lleoliad gwaith Darpariaeth Ieuenctid i ennill profiad. Yn ystod eu profiad gwaith, dysgasant sut i gwblhau cynlluniau sesiwn ac asesiadau risg a buont wrthi鈥檔 cynllunio a chynnal gweithgaredd i bobl ifanc.鈥澨
Cyflwynodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid dros dro Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard, y gwobrau a dywedodd:
鈥淢ae hwn yn llwyddiant arbennig ac yn ddull arloesol i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 angen am arweinwyr ieuenctid cymwysedig yn y dyfodol. Rydym eisiau i bobl ifanc fod yn ymwybodol bod hwn yn llwybr gyrfaol gwerthfawr a chyffrous. Rwyf yn arbennig o falch ein bod ni wedi gallu blaenoriaethu鈥檙 buddsoddiad hwn mewn gwaith ieuenctid, a hynny mewn cyfnod lle mae bob gwasanaeth ar draws y Cyngor, gan gynnwys y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig wedi gorfod gwneud arbedion effeithlonrwydd ariannol sylweddol dros y tair blynedd diwethaf o ganlyniad i鈥檙 hinsawdd economaidd heriol. Mae鈥檔 hanfodol bwysig ein bod ni鈥檔 gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn dyfodol Gwasanaethau Ieuenctid yn Sir y Fflint."
Ategodd Uwch-ddarlithydd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Hayley Douglas:听
鈥淢ae helpu i ddatblygu鈥檙 genhedlaeth nesaf o arweinwyr ieuenctid a chymunedol yn ganolog i鈥檙 gwaith yr ydym yn ei wneud yma ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam.听Nid yn unig y mae hynny鈥檔 cynnwys ein rhaglen gradd a addysgir, ond mae hefyd yn cynnwys prosiectau fel hyn, gweithio gyda phobl ifanc yn y gymuned ac ochr yn ochr 芒 phartneriaid megis Cyngor Sir y Fflint.听
鈥淢ae鈥檙 gwaith hwn - sy鈥檔 helpu i amddiffyn darpariaeth gwasanaeth ieuenctid mewn ffordd arloesol - wedi profi'n werthfawr i ni fel staff yn ogystal 芒'r bobl ifanc yr ydym wedi gweithio 芒 hwy, a dylai pob un ohonynt fod yn falch iawn o'u llwyddiannau."
Nawr eu bod nhw wedi cwblhau鈥檙 cwrs, caiff y bobl ifanc eu hyfforddi a鈥檜 mentora gan swyddogion Darpariaeth Ieuenctid Integredig ac fe'u hanogir i wneud cais am unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol, boed hynny yn wirfoddol neu gyda th芒l.