天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Tai Gwarchod

Published: 18/01/2019

Mae Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint wedi cefnogi newid y cymhwysedd ar gyfer holl grwpiau bach a chynlluniau gwarchod hyd at 55 oed, i ddod 芒 hwy yn unol 芒 chymdeithasau tai a phartneriaid eraill, yn amodol ar adolygu ceisiadau cyfredol pobl rhwng 50 a 55 oed.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn cefnogi cwmpas yr adolygiad swyddog i ystyried dewisiadau ar gyfer cynlluniau nad ydynt yn addas ar gyfer llety gwarchod a darparu cyfres o argymhellion i aelodau eu hystyried.

Mae gan y Cyngor nifer o eiddo tai gwarchod sy鈥檔 wag ar unrhyw adeg ac mae rhai cynlluniau yn cynnwys rhestrau aros bach iawn. Os ydych dros 55 oed a bod gennych unrhyw faterion tai, mae鈥檙 Cyngor yn eich annog i gysylltu 芒鈥檔 t卯m Datrysiadau Tai ar 01352 703777 neu e-bost housingsolutionstriage@flintshire.gov.uk neu alw yn un o鈥檙 Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle gall y t卯m gynghori ar amrywiol ddewisiadau tai.

Mae鈥檙 Cyngor yn dymuno sicrhau trigolion na fydd unrhyw beth yn digwydd i unrhyw gynllun ac ni wneir unrhyw benderfyniadau terfynol heb weithio gyda thenantiaid cynllun tai gwarchod a bod yr adroddiad hwn yn ffurfio rhan o鈥檙 broses ystyriaeth barhaus.