天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Prisiau Casglu Gwastraff Gardd

Published: 17/01/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi trafod effaith y gwasanaeth casglu gwastraff gardd y codir t芒l amdano.

Cefnogodd y Cabinet barhad y polisi codi tal ar gyfer 2019 a thu hwnt a bod y t芒l presennol 听o 拢30 fesul bin yn cael ei rewi ar gyfer 2019.

Cyflwynwyd y taliadau newydd ym mis Ebrill 2018 er mwyn helpu鈥檙 Cyngor i sicrhau yr adenillir yr holl gostau am y gwasanaeth hwn sy鈥檔 cael ei ddarparu yn 么l disgresiwn y Cyngor.

Ym mlwyddyn gyntaf y broses danysgrifio gwerthwyd 33,871 o hawlenni, sy鈥檔 golygu bod 40% o'r holl breswylwyr a dros hanner y rhai hynny a oedd yn defnyddio鈥檙 gwasanaeth yn y gorffennol wedi tanysgrifio ar gyfer casgliad o leiaf un bin o dan y gwasanaeth newydd.听

Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

鈥淩oedd nifer y tanysgrifiadau ar gyfer y gwasanaeth ychydig yn fwy na鈥檔 targed ariannol, sy鈥檔 golygu y gallwn o bosibl edrych ar systemau seiliedig ar dechnoleg a fydd yn cynnig dull mwy effeithiol o gofrestru bin gydag eiddo. Bydd hyn yn cyflymu鈥檙 broses o reoli a听 thalu ac yn dileu鈥檙 angen am ddosbarthu sticeri bob blwyddyn.听 Rydym yn argymell fod opsiynau ar gyfer hyn yn cael eu hystyried a鈥檜 cyflwyno mewn pryd ar gyfer tymor 2020.鈥

Cynnig arall yw peidio ymestyn y gwasanaeth i un a gynigir gydol y flwyddyn.听 Ychydig iawn o alw a fu am y gwasanaeth rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror. Fodd bynnag fe fyddwn mewn blynyddoedd i ddod yn parhau 芒'r casgliadau gwastraff gardd drwodd i ddechrau cyfnod y Nadolig er mwyn i breswylwyr gael gwared ar gwymp olaf y dail. Bydd stopio'r gwasanaeth ar yr adeg yma yn galluogi casglu mwy o'r deunydd ailgylchu sy'n pentyrru dros y Nadolig, sydd yn un o'n adegau prysuraf o'r flwyddyn. Mae pob Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn derbyn gwastraff gardd drwy gydol o flwyddyn ac mae cyngor am gompostio yn y cartref ar gael ar wefan y Cyngor.听听

Argymhellir hefyd, ar 么l adolygu鈥檙 mater yn ofalus, na fydd gostyngiad pris yn cael ei gynnig i breswylwyr sy'n derbyn budd-daliadau.听 Byddai鈥檔 anodd rhoi鈥檙 fath ostyngiad heb drosglwyddo'r costau i drigolion eraill nad ydynt yn gymwys a byddai rheoli'r fath system yn gostus ac yn draul ar amser gan y byddai'n rhaid cynnal gwiriadau a monitro unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau.听 Mae traean o鈥檙 rhai sydd wedi dewis derbyn y gwasanaeth yn rhan o鈥檙 Gynllun Gostyngiad ar Dreth y Cyngor.