天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Gronant yn dathlu llwyddiant

Published: 10/01/2019

Ysgol Gronant 01.jpgMae darpariaeth Cyfnod Sylfaen un o ysgolion cynradd Sir y Fflint wedi derbyn cydnabyddiaeth yn ddiweddar am arferion da gan GwE (Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwelliant Ysgolion ar gyfer Gogledd Cymru).

Mae Ysgol Gronant mewn cynghrair ag Ysgol Trelogan fel rhan o Ffederasiwn y Parlwr Du, ac mae鈥檙 holl staff yn gweithio ar y cyd i ddarparu profiadau dysgu sydd yn ennyn diddordeb ac yn herio鈥檙 dysgwyr ifanc.

Mae鈥檙 athrawes Cyfnod Sylfaen, Mrs Watson, wedi datblygu ardal Cyfnod Sylfaen ardderchog sydd yn herio ac yn ymgysylltu 芒鈥檙 disgyblion sydd rhwng 3 a 7 mlwydd oed.

Meddai鈥檙 Pennaeth, Dawn Bayliss:

鈥淢ae pob aelod o staff yn gwbl ymroddedig i鈥檙 gwaith o sefydlu addysgeg Cyfnod Sylfaen. Mae鈥檙 angerdd sydd ganddynt dros ein plant wedi golygu bod ein hamgylchedd dysgu yn un diddorol a bywiog.听

鈥淎nogir y plant i fod yn ddysgwyr annibynnol ac maent yn ffynnu o ganlyniad i鈥檙 cyfleoedd a roddir iddynt. Cyflawnodd ein holl blant eu dangosydd Cyfnod Sylfaen mewn Datblygiad Mathemategol a Datblygiad Personol a Chymdeithasol y llynedd.听

鈥淢ae Mrs Watson wedi cofleidio cyflwyniad technolegau newydd ac wedi creu ei hardaloedd sgrin werdd a bythau sain Seesaw ei hun i鈥檙 plant recordio a hunanasesu eu cyraeddiadau yn annibynnol. Mae hi bellach yn gweithio ag Ysgol Trelogan i rannu鈥檙 arferion da y mae hi wedi eu datblygu.鈥

Mae Ysgol Gronant yn estyn gwahoddiad i bawb 鈥 yn cynnwys darpar ddisgyblion a鈥檜 rhieni a gwarcheidwaid 鈥 i brynhawn agored ar ddydd Iau, 31 Ionawr rhwng 2pm a 4:30pm.听 Cewch y cyfle i weld y gofod Cyfnod Sylfaen yn ogystal 芒'r cyfleusterau gwych sydd ar gael yng ngweddill yr ysgol.听 Bydd hefyd yn rhoi i chi鈥檙 cyfle i sgwrsio 芒 staff a disgyblion cyfredol er mwyn dysgu am y cyfleoedd sydd gan yr ysgol i鈥檞 cynnig.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

鈥淢ae鈥檙 gofod Cyfnod Sylfaen sylweddol yma wedi cael ei greu gyda chymaint o syniadau gwahanol i ddisgyblion ddysgu a chael hwyl, gan gynnwys peintio, chwarae rolau a hyd yn oed bwth sain gyda sgrin werdd - mae鈥檔 wirioneddol wych.

鈥淢ae鈥檔 gollwng eu chwilfrydedd yn rhydd ac yn caniat谩u i鈥檞 dychmygion dyfu ac i鈥檞 creadigrwydd flodeuo.鈥

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:听

鈥淢ae rhoi i blant y cychwyn gorau un ar eu taith addysgol a鈥檜 cyffroi am y syniad o ddysgu o鈥檜 dyddiau cynharaf yn yr ysgol yn hanfodol i lwyddiant academaidd y dyfodol. Mae'r disgyblion yn Ysgol Gronant yn derbyn y cyfleoedd dysgu gorau posib tra yn y Cyfnod Sylfaen ac fe fydd hyn yn eu galluogi i ffynnu ac i gyflawni eu potensial yn y dyfodol.鈥

Ysgol Gronant 03.jpgYsgol Gronant 05.jpg