天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Criwiau鈥檙 Gwasanaethau Stryd yn cadw Sir y Fflint i symud mewn tywydd eithafol

Published: 11/11/2026

Mae timau Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint yn paratoi i gadw gwasanaethau hanfodol yn rhedeg yn ddiogel wrth i鈥檙 tywydd eithafol barhau i effeithio ar gymunedau trwy gydol y flwyddyn.

O foreau gaeafol rhewllyd a glaw trwm i boethder yr haf a stormydd dwys, mae criwiau鈥檙 Gwasanaethau Stryd yn gweithio gydol y flwyddyn i gynnal y gwasanaethau mae preswylwyr yn dibynnu arnynt.

O gasglu gwastraff y cartref, cynnal priffyrdd, clirio coed sydd wedi disgyn neu ymateb i lifogydd, mae鈥檙 timau yn chwarae rhan bwysig wrth gadw Sir y Fflint yn ddiogel, yn l芒n ac yn symud.

Fodd bynnag, mae tywydd eithafol yn fwy aml yn golygu heriau ychwanegol, ac mae鈥檙 Cyngor yn cydnabod bod amddiffyn y gweithlu yr un mor bwysig 芒 chynnal gwasanaethau.

Yn ystod cyfnodau o dywydd garw, mae rheolwyr yn asesu amodau yn barhaus ac yn gwneud addasiadau ymarferol ble fo angen. Gall y rhain gynnwys newid oriau gwaith, adolygu gweithgareddau a gynlluniwyd, darparu cymorth ychwanegol a blaenoriaethu gwaith hanfodol neu waith brys.

Pan fo amodau yn rhy berygl, efallai y bydd angen gohirio gweithgareddau聽 neu roi trefniadau eraill mewn lle.

Meddai Christopher Goddard, Rheolwr y Gwasanaethau Stryd:聽 "Mae ein timau Gwasanaethau Stryd yn gweithio ym mhob math o amodau, yn aml y tu 么l i鈥檙 llenni, i ddarparu gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd. Gall tywydd eithafol wneud gwaith sydd eisoes yn anodd hyd yn oed yn fwy heriol, a rhaid i ni bob amser roi diogelwch ein gweithwyr a鈥檙 cyhoedd yn gyntaf.

"Rwy鈥檔 ddiolchgar i鈥檙 criwiau am eu hymroddiad, a hefyd hoffwn ddiolch i鈥檙 preswylwyr am eu hamynedd a鈥檜 dealltwriaeth pan fo tywydd garw yn effeithio ar ein gwasanaethau.

"Mae cadw gwasanaethau i fynd yn ystod tywydd anodd yn golygu cynllunio gofalus, gwaith t卯m a pharodrwydd i addasu. Mae ein gweithwyr yn cymryd gwir falchder yn y gwaith a wn芒nt i gymunedau Sir y Fflint. Rydym eisiau sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth, yr offer a鈥檙 trefniadau gweithio cywir i wneud eu dyletswyddau yn ddiogel.

Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd yn annog preswylwyr i gefnogi gweithwyr y Gwasanaethau Stryd trwy ganiat谩u i griwiau gael digon o le i weithio鈥檔 ddiogel, cymryd gofal o amgylch cerbydau gweithredol a dilyn diweddariadau gwasanaeth yn ystod cyfnodau o darfu.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: 鈥淢ae ein timau Gwasanaethau Stryd yn gweithio鈥檔 galed i gadw ein gwasanaethau hanfodol ar gael yn ystod amodau heriol, yn aml yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi ein cymunedau.

鈥淵 realiti yw y gall tywydd eithafol cynyddol weithiau achosi tarfu na ellir ei osgoi, ond ein blaenoriaeth bob amser fydd sicrhau diogelwch ein criwiau wrth gynnal gwasanaethau hanfodol ble bynnag fo鈥檔 bosib.

鈥淗offwn ddiolch i鈥檔 gweithlu am eu hymrwymiad parhaus, ac i鈥檙 preswylwyr聽 am eu cefnogaeth a鈥檜 hamynedd pan fo tywydd garw yn effeithio ar wasanaethau.鈥�

Gall preswylwyr weld y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.