天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canfod fod ardaloedd blodau gwyllt a llai o dorri gwair yn cefnogi llawer mwy o bryfaid mewn astudiaeth Sir y Fflint

Published: 10/11/2026

Mae ardaloedd聽 blodau gwyllt ac ardaloedd glaswelltir sydd 芒 llai o dorri gwair a reolir gan Gyngor Sir y Fflint, yn cefnogi niferoedd llawer uwch o bryfaid nag ardaloedd ble mae鈥檙 gwair yn cael ei dorri, yn 么l astudiaeth newydd.

Yn y blynyddoedd diweddar mae鈥檙 Cyngor wedi newid y ffordd o reoli glaswelltir i gefnogi wrth greu cynefin blodau gwyllt. Ers 2019, cr毛wyd ardaloedd o flodau gwyllt a llai o dorri gwair ar draws 49 hectar o laswelltir a dorrwyd yn flaenorol.

Bu i astudiaeth a gynhaliwyd yr haf hwn asesu sut mae rheolaeth glaswelltir y Cyngor yn dylanwadu ar boblogaethau pryfaid lleol. Roedd y gwaith yn rhan o MSc mewn Cadwraeth a Rheoli Tir a gwblhawyd trwy Brifysgol Bangor.

Roedd yr astudiaeth, a gynhaliwyd rhwng Mai a Gorffennaf 2026, yn golygu 95 o oriau arolwg ar draws chwe safle Cyngor Sir y Fflint, a darparwyd y data lleol cyntaf ar effaith y newidiadau ar natur yn Sir y Fflint.

Cofnodwyd cyfanswm o 3,884 o bryfaid yn ystod yr arolygon ar draws chwe safle, gyda safleoedd blodau gwyllt (ble mae hadau blodau gwyllt brodorol wedi eu cyflwyno) a safleoedd 芒 llai o dorri gwair (ble caniateir i鈥檙 gwair dyfu yn ystod yr haf) yn cefnogi niferoedd llawer uwch na glaswelltiroedd oedd yn cael eu torri. Roedd mwy na 91% o gyfanswm y pryfaid a gofnodwyd wedi eu canfod ar draws safleoedd 芒 hadau blodau gwyllt a rhai 芒 llai o dorri gwair, gyda glaswelltiroedd a dorrwyd yn cefnogi ychydig dros 8%.

Bu i safleoedd 芒 llai o dorri gwair yn Sir y Fflint gefnogi 218% yn fwy o anifeiliaid di-asgwrn-cefn na safleoedd ble torrir y gwair a bu i safleoedd 芒 hadau blodau gwyllt nodi 673% yn fwy o anifeiliaid di-asgwrn-cefn na safleoedd ble mae鈥檙 gwair yn cael ei dorri. Mae鈥檙 canfyddiadau hefyd yn dangos fod glaswelltiroedd gyda llystyfiant uwch yn cefnogi niferoedd uwch o anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Mae dull newydd y Cyngor o reoli glaswelltir yn cael ei arwain gan wyddoniaeth a鈥檙 nod yw creu mannau iach, pridd a dwr iach, cefnogi peillwyr lleol a chyflawni buddion ehangach gan gynnwys storio carbon, hidlo llygredd aer, ac arafu amsugno dwr wyneb.

Mae鈥檙 camau hyn hefyd yn cefnogi Statws Caru Gwenyn y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: 聽"Deallir yn fyd-eang fod ardaloedd mwy naturiol o fudd i natur ond mae鈥檔 wych gweld tystiolaeth leol sy鈥檔 dangos bod y newidiadau hyn yn cael effaith.

鈥淢ae鈥檙 ardaloedd hyn o lystyfiant uwch yn gweithio mor galed, gan ddarparu nifer o fuddion, mae鈥檔 rhywbeth y mae angen i ni gyd ei gofio pan welwn ardaloedd o wair uwch.鈥�

Ar draws y DU, mae cynefin blodau gwyllt wedi gostwng 98% ers yr Ail Ryfel Byd. Mae pryfaid sy鈥檔 hedfan hefyd wedi gostwng 60% dros y 20 mlynedd ddiwethaf. Mae pryfaid yn rhan hanfodol o brosesau naturiol a chynhyrchu bwyd - amcangyfrifir bod un o dair cegaid o fwyd yn cael ei beillio gan bryfyn.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod yn ymroddedig i wella lleoedd ar gyfer natur a phobl ar draws y sir a bydd yn parhau i ehangu safleoedd blodau gwyllt ac ardaloedd 芒 llai o dorri gwair ble鈥檔 briodol. Trwy wneud penderfyniadau rheoli sy鈥檔 seiliedig ar dystiolaeth, mae鈥檙 Cyngor yn helpu i greu Sir y Fflint sy鈥檔 wydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.