Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn barod ar gyfer y gaeaf wrth i鈥檙 lorïau graeanu newydd fynd ar y ffordd
Published: 09/11/2026
Mae pedair lori graeanu newydd wedi ymuno 芒 fflyd Cyngor Sir y Fflint wrth i鈥檙 timoedd baratoi i gadw鈥檙 sir i symud yn ddiogel trwy鈥檙 misoedd oer o鈥檔 blaenau.
Mae鈥檙 cerbydau amnewid yn dod wrth i鈥檙 Cyngor baratoi ar gyfer gaeaf arall o waith cynnal a chadw ddydd a nos i gadw鈥檙 priffyrdd ac ardaloedd cyhoeddus eraill yn ddiogel a hygyrch pan fydd y tymereddau rhewllyd yn cyrraedd.
Bob gaeaf, mae鈥檙 Cyngor yn monitro amodau鈥檔 ddyddiol er mwyn gwneud penderfyniadau o ran pryd i raeanu. Gall y lor茂au graeanu fod ar waith 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos os fydd hynny鈥檔 ofynnol yn sgil yr amodau. Mae'r tymor yn rhedeg o 1 Hydref i 30 Ebrill bob blwyddyn.
Mae llwybrau blaenoriaeth ar gyfer graeanu yn Sir y Fflint yn cynnwys oddeutu 560 cilomedr o ffordd - gan gynrychioli 45% o rwydwaith priffordd y sir, gan gynnwys llwybrau allweddol sy鈥檔 cysylltu cymunedau a darparu mynediad at wasanaethau hanfodol.
Mae鈥檙 Cyngor yn gweithredu fflyd o 12 lori graeanu a dau gerbyd wrth gefn, a all gael eu llwytho a bod yn barod i fynd o fewn 90 munud o gael cyfarwyddyd. Gellir hefyd gosod aradr eira arnynt yn ystod cyfnodau o eira trwm, ac fe g芒nt eu cefnogi gan gontractwyr amaethyddol lleol ar lwybrau clirio eira dynodedig.
Unwaith bydd y rhwydwaith blaenoriaeth wedi ei raeanu, bydd ffyrdd eraill ac ardaloedd cerdded allweddol hefyd yn cael eu trin pan fydd hynny鈥檔 bosibl. Mae hyn yn cynnwys canol trefi, ardaloedd siopa a phalmentydd ger ysbytai, ysgolion a gorsafoedd bysiau.
I gefnogi cymunedau lleol, mae oddeutu 500 o finiau halen a thwmpathau halen wedi鈥檜 lleoli ar draws Sir y Fflint. Mae鈥檙 rhain yn cael eu llenwi ar ddechrau tymor y gaeaf ac yn cael eu hail-lenwi yn 么l yr angen.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: 鈥淢ae ein timoedd cynnal a chadw dros y gaeaf yn chwarae r么l hanfodol i鈥檔 helpu ni oll i deithio鈥檔 ddiogel o amgylch Sir y Fflint yn ystod misoedd oer y gaeaf, yn aml yn gweithio oriau anghymdeithasol ac mewn amodau heriol.
鈥淢ae鈥檙 lor茂au graeanu newydd yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gadw Sir y Fflint i symud yn ystod tywydd gaeafol.
鈥淓r nad yw鈥檔 bosibl graeanu bob ffordd a phalmant, mae ein timoedd yn gweithio鈥檔 ddiflino i flaenoriaethu鈥檙 llwybrau mwyaf prysur a lleoliadau allweddol, gan sicrhau y gall cymunedau aros yn gysylltiedig ac y gall siwrneiau hanfodol barhau mor ddiogel 芒 phosibl.鈥�
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaeth cynnal a chadw dros y gaeaf y Cyngor yn