Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dweud eich dweud ar ddyfodol Canol Tref Bwcle
Published: 06/11/2026
Mae preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu barn wrth i鈥檙 gwaith barhau i siapio dyfodol canol tref Bwcle.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn digwyddiad聽 ymgysylltu cyhoeddus newydd fel rhan o Siapio Bwcle, prosiect sy鈥檔 edrych ar sut y gellir gwella canol y dref a鈥檌 wneud yn fwy deniadol, yn fwy croesawgar ac yn fywiog i bawb.
Bydd yr ymgysylltiad yn adeiladu ar y weledigaeth ar gyfer Bwcle yr ymgynghorwyd arni fis diwethaf ac a arweiniodd at gytuno ar y weledigaeth ar gyfer y dref a nodi cyfres o feysydd blaenoriaeth allweddol i鈥檞 datblygu. O鈥檙 ymatebion a dderbyniwyd mae鈥檙 dylunwyr Hemingway, gan weithio gyda WSP mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y Fflint, wedi datblygu dyluniadau cysyniad cychwynnol.
Gall pobl rannu eu safbwyntiau ynglyn 芒鈥檙 dyluniadau sy鈥檔 datblygu ar gyfer canol tref Bwcle drwy gwblhau鈥檙 arolwg byr yma: .聽Bydd yr arolwg ar agor o 12 Tachwedd.
P鈥檜n ai ydych chi鈥檔 byw ym Mwcle, yn gweithio yn y dref, yn rhedeg busnes, yn siopa鈥檔 lleol neu鈥檔 ymweld yn rheolaidd, mae eich barn yn bwysig a bydd yn helpu i lywio cam nesaf y prosiect gan helpu i sicrhau fod y dyluniadau鈥檔 adlewyrchu anghenion, blaenoriaethau a dyheadau pobl leol.
Bydd sesiwn alw heibio cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Siopa Bwcle dydd Iau 12 Tachwedd rhwng 10am a 5pm, gan roi cyfle i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i weld y syniadau newydd, siarad gyda th卯m y prosiect a rhoi rhagor o adborth.聽 Bydd arolygon ar-lein hefyd ar gael i鈥檞 llenwi.聽
Y nod yw sicrhau bod y cynigion sy鈥檔 cael eu datblygu yn cael eu llywio gan y bobl sy鈥檔 adnabod ac yn defnyddio Bwcle bob dydd.
Lleisiwch eich barn a helpu i siapio dyfodol canol tref Bwcle.