天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Gofal Plant Wedi鈥檌 Ariannu Llywodraeth Cymru ar gael ar gyfer plant dwy oed yn Sir y Fflint

Published: 03/11/2026

Misoedd cyn cyflwyno鈥檙 cynllun ar draws y wlad, gall teuluoedd Sir y Fflint fanteisio ar ofal plant wedi鈥檌 ariannu ar gyfer plant dwy oed.

O鈥檙 blaen, dim ond teuluoedd mewn ardaloedd Dechrau'n Deg oedd yn gallu manteisio ar ofal plant am ddim ar gyfer plant dwy oed. O鈥檙 wythnos hon ymlaen, mae鈥檙 cynnig ar gael ar draws y sir 鈥� gan gefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant ac annog mwy o deuluoedd i fanteisio ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel.

Bydd teuluoedd yn gallu manteisio ar hyd at 12.5 awr o ofal plant wedi鈥檌 ariannu yr wythnos, wedi鈥檜 darparu fel sesiynau 2.5 awr y diwrnod hyd at bum niwrnod yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.

Mae plant yn gymwys o ddechrau鈥檙 tymor ar 么l eu pen-blwydd yn ddwy oed, hyd at ddiwedd y tymor y byddant yn troi鈥檔 dair oed.

Dim ond drwy ddarparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru i ddarparu cynnig gofal plant estynedig Llywodraeth Cymru y gellir cael mynediad at y cyllid. Mae rhestr lawn o鈥檙 darparwyr ar gael ar wefan y Cyngor.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: 鈥淒yma newyddion gwych ar gyfer teuluoedd Sir y Fflint. Gall darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel gael effaith fawr ar ddatblygiad, hyder a sgiliau cymdeithasol plant, gan eu helpu i greu sylfaen gref ar gyfer dysgu.

鈥淎r yr un pryd, bydd y gefnogaeth hon yn helpu teuluoedd gyda chostau gofal plant ac yn darparu mwy o hyblygrwydd i rieni sy鈥檔 gweithio neu ag ymrwymiadau eraill.

鈥淥s nad ydyn nhw wedi gwneud yn barod, hoffaf annog bob rhiant a gofalwr i wirio a ydyn nhw鈥檔 gymwys er mwyn iddyn nhw fanteisio ar y cyfle gwerthfawr yma.鈥�

Mae鈥檔 rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnig 12.5 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i blant dwy oed erbyn mis Mawrth 2027.

Bydd cam nesaf y cynllun yn cynnwys cyflwyno 20 awr wedi鈥檌 ariannu ar gyfer plant 9 mis oed hyd at oedran ysgol, am 48 wythnos y flwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i