Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint ymysg y Cynghorau sy鈥檔 perfformio orau o ran casglu treth
Published: 23/10/2026
Unwaith eto, mae Sir y Fflint wedi cael ei gydnabod fel un o鈥檙 Cynghorau sy鈥檔 perfformio orau yng Nghymru o ran casglu treth y Cyngor ac ardrethi busnes, gan helpu i ddiogelu gwasanaethau lleol a sicrhau tegwch ar gyfer trethdalwyr.
Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru鈥檔 dangos bod Sir y Fflint wedi cyflawni鈥檙 gyfradd casglu treth y Cyngor blynyddol uchaf ond un yng Nghymru yn ystod 2025/26, gyda 97.2% o dreth y Cyngor wedi鈥檌 gasglu.
Mae鈥檙 Cyngor hefyd 芒鈥檙 lefel isaf ond un o 么l-ddyledion treth y Cyngor fesul aelwyd yng Nghymru.
O鈥檌 gymharu 芒 rhai o Gynghorau sy鈥檔 perfformio isaf, casglodd Sir y Fflint oddeutu 3.3% yn fwy o dreth y Cyngor yn y flwyddyn - sy鈥檔 gyfystyr 芒 thua 拢4.5 miliwn mewn incwm ychwanegol. Mae hyn yn helpu i sicrhau darpariaeth barhaus o wasanaethau hanfodol ar gyfer preswylwyr a chymunedau ar draws y sir.
Trwy gasglu cyfran uwch o鈥檙 hyn sy鈥檔 ddyledus, mae鈥檙 Cyngor hefyd yn gallu cadw lefel cyffredinol Treth y Cyngor mor isel 芒 phosibl ar gyfer y rhai sy鈥檔 talu.
Yn y cyfamser cyflawnodd y Cyngor ganlyniadau cystal o ran casglu Ardrethi Annomestig Cenedlaethol hefyd. Mae ffigyrau鈥檔 dangos mai Sir y Fflint oedd yn y trydydd safle o ran casglu ardrethi busnes yng Nghymru yn 2025/26, gyda chyfradd o 98.1% - sy鈥檔 llawer mwy na chyfartaledd Cymru o 95.8%.
Mae鈥檙 perfformiad cryf yn y ddau faes yn adlewyrchu ymrwymiad preswylwyr a busnesau sy鈥檔 talu ar amser, ynghyd 芒 gwaith timoedd y Cyngor i sicrhau bod arian yn cael ei gasglu鈥檔 effeithlon wrth gefnogi鈥檙 rhai sy鈥檔 profi anawsterau ariannol.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyllid: 鈥淢ae鈥檙 canlyniadau hyn yn dangos ein hymrwymiad i ddiogelu cyllid cyhoeddus a sicrhau bod pawb yn cyfrannu鈥檔 deg tuag at ein gwasanaethau lleol.
鈥淢ae mwyafrif o鈥檔 preswylwyr a busnesau鈥檔 talu鈥檙 hyn sy鈥檔 ddyledus ar amser, gan helpu i sicrhau y gall gwasanaethau hanfodol barhau i gael eu darparu.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod rhai pobl yn ei chael yn anodd talu, ac rydym eisiau annog y bobl hynny i gysylltu 芒 ni cyn gynted 芒 phosibl fel y gallwn gynnig cymorth a chyngor.鈥�
Gall unrhyw un sy鈥檔 ei chael yn anodd talu, gysylltu 芒鈥檙 gwasanaeth treth y Cyngor ar 01352 704848.