天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwahodd preswylwyr i rannu eu barn ar reoli chwyn ar draws Sir y Fflint

Published: 22/10/2026

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i breswylwyr rannu eu barn ar sut y rheolir chwyn ar ffyrdd, palmentydd a mannau cyhoeddus eraill yn y sir.

Bydd adborth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad yn helpu wrth wneud penderfyniadau, polisi鈥檙 dyfodol a sut mae鈥檙 Cyngor yn cydbwyso diogelwch y cyhoedd, ystyriaethau amgylcheddol a gwneud y defnydd gorau o鈥檙 adnoddau sydd ar gael.

Mae rheoli chwyn yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal a chadw ffyrdd a phalmentydd diogel a hygyrch trwy atal chwyn rhag rhwystro llwybrau cerdded, cyfyngu gwelededd, difrodi wynebau ffyrdd ac effeithio ar systemau draenio, ynghyd 芒 chael effaith negyddol ar ymddangosiad mannau cyhoeddus.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae鈥檙 Cyngor wedi gostwng ei ddefnydd o chwynladdwyr sy鈥檔 seiliedig ar glyphosate a bellach yn defnyddio dulliau eraill o reoli chwyn. Mae hyn yn cynnwys cyfuniad o frwsio a thorri鈥檔 fecanyddol, chwynnu 芒 llaw, a thriniaethau ewyn, st锚m a dwr poeth.

Gall y dulliau hyn fod angen ymweliadau yn amlach a mwy o amser gweithwyr, gan olygu nad yw鈥檔 bosib cynnal bob lleoliad i鈥檙 un safon, bob amser.

Mae鈥檙 symudiad i ffwrdd o glyphosate yn dod mewn ymateb i bryderon cynyddol am effaith posib chwynladdwyr cemegol ar yr amgylchedd ac iechyd dynol.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: 鈥淢ae rheoli chwyn yn ymwneud 芒 chyflawni鈥檙 cydbwysedd cywir rhwng cadw ein cymunedau鈥檔 ddiogel ac yn hygyrch a chadw ein strydoedd yn l芒n, yn daclus ac wedi'u cynnal a'u cadw'n dda, gan amddiffyn yr amgylchedd, hyrwyddo bioamrywiaeth a gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus.

鈥淩ydym yn awyddus iawn i glywed barn ein preswylwyr wrth i ni barhau i siapio ac addasu ein ffordd newydd o weithio.鈥�

I rannu eich barn, ewch i www.siryfflint.gov.uk/Ymgynghoriadau