天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dweud eich dweud ar ddyfodol canol tref Bwcle

Published: 16/10/2026

Mae preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu barn wrth i鈥檙 gwaith barhau i siapio gweledigaeth ar gyfer canol tref Bwcle.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn digwyddiad聽 ymgysylltu cyhoeddus newydd yn rhan o Siapio Bwcle, prosiect sy鈥檔 edrych sut y gellir gwella canol y dref a鈥檌 gwneud yn fwy deniadol, yn fwy croesawgar ac yn fywiog i bawb.聽

Bydd yr ymgysylltu yn helpu鈥檙 t卯m prosiect i ddeall beth mae pobl yn ei werthfawrogi am Fwcle heddiw, beth y gellir ei wella a beth yr hoffai pobl ei weld yn y dyfodol.

Bydd y farn a gesglir yn cael ei defnyddio i brofi a datblygu gweledigaeth ar gyfer Bwcle, gan helpu i sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion, blaenoriaethau a dyheadau pobl leol.

Gall pobl rannu eu barn ar-lein drwy lenwi鈥檙 arolwg byr yma:

Pa unai ydych chi鈥檔 byw ym Mwcle, yn gweithio yn y dref, yn rhedeg busnes, yn siopa鈥檔 lleol neu鈥檔 ymweld yn rheolaidd, mae eich barn yn bwysig a bydd yn helpu i ni lywio cam nesaf y prosiect.

Dyma gam cynnar y broses ddylunio ac fe fydd yna fwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan wrth i鈥檙 gwaith fynd yn ei flaen.

Pan fydd y dyluniadau wedi cael eu datblygu ymhellach, bydd sesiynau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal ym Mwcle, gan roi cyfle i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i weld y syniadau newydd, siarad gyda鈥檙 t卯m prosiect a rhoi rhagor o adborth.聽 Bydd arolygon ar-lein hefyd ar gael i鈥檞 llenwi.聽

Y nod yw sicrhau bod y cynigion yn cael eu llywio gan y bobl sy鈥檔 adnabod ac yn defnyddio Bwcle bob dydd.聽Dweud eich dweud a helpwch i siapio dyfodol canol tref Bwcle.