Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Fferyllfa Hughes i agor canolfan iechyd newydd yn Yr Wyddgrug
Published: 08/10/2026
Mae Canolfan Iechyd a Lles newydd sbon ar fin agor ei drysau yng nghanol yr Wyddgrug, yn cynnig gwell mynediad at ofal iechyd lleol, cefnogaeth gymunedol, a gwasanaethau lles i鈥檙 trigolion.
Arweinydd y fenter yw Fferyllfa Hughes, gyda鈥檙 gefnogaeth gyfalaf hanfodol yn dod drwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a weinyddir ac a gefnogir gan d卯m Adfywio Cyngor Sir y Fflint.
Dyluniwyd y cyfleuster newydd hwn i ddod ag adnoddau iechyd a lles allweddol ynghyd dan yr unto, gan ehangu ar y gwasanaethau fferyllol a chlinigol dibynadwy y mae Fferyllfa Hughes eisoes yn eu cynnig i鈥檙 gymuned leol.
Drwy leoli鈥檙 gwasanaethau estynedig hyn yng nghanol y dref, bydd y ganolfan yn ei gwneud yn haws i bawb gael gafael ar gymorth gofal iechyd ac yn denu ymwelwyr a bywyd i ganol tref yr Wyddgrug.
Mae鈥檙 prosiect yn cydweddu 芒 gweledigaeth ehangach rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru drwy addasu eiddo amlwg yng nghanol y dref i fod yn lleoliad amlswyddogaethol bywiog wedi鈥檌 addasu i anghenion gofal iechyd newidiol y trigolion.
Meddai llefarydd ar ran Fferyllfa Hughes: 鈥淩ydym wrth ein boddau鈥檔 cael dod 芒'r weledigaeth hon yn fyw gyda chefnogaeth Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
"Fel un o bartneriaid hirsefydlog maes gofal iechyd yr Wyddgrug, mae ehangu鈥檙 hyn sydd gennym i鈥檞 gynnig mewn Canolfan Iechyd a Lles bwrpasol yn ein galluogi i wasanaethu ein cleifion a鈥檙 gymuned yn well.
"Mae鈥檙 buddsoddiad hwn yn ymwneud 芒 mwy na dim ond gofal iechyd, mae hefyd yn ceisio cynnal ffyniant ein stryd fawr a sicrhau bod gofal ar gael i bawb yn ddidrafferth.鈥�
Mae menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar adfywio鈥檙 stryd fawr, addasu adeiladau gwag at ddibenion gwahanol, a chreu isadeiledd gwyrdd er mwyn meithrin twf cynaliadwy yng nghanol trefi ledled Cymru.聽
Meddai'r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: 鈥淩ydym wedi gwirioni gweld y ganolfan iechyd ganol dref newydd hon yn datblygu, sy鈥檔 cyd-fynd yn berffaith 芒鈥檔 gweledigaeth ni am Ganol Tref fywiog a llewyrchus yn yr Wyddgrug.
"Mae addasu unedau masnachol fel y rheiny yng Nghanolfan Siopa Daniel Owen at ddibenion gwahanol yn golygu ein bod nid yn unig yn cynnig mwy o leoedd hanfodol i gleifion fynd i gael asesiadau ac ymgynghoriadau iechyd hanfodol, ond hefyd yn annog mwy o bobol i ymweld 芒 busnesau lleol ar y stryd fawr.
"Mae鈥檔 gwneud gofal iechyd yn wirioneddol hygyrch, gan roi gofal sylfaenol modern yn yr union le y mae鈥檙 trigolion ei angen fwyaf, a hynny gan ailfywiogi鈥檙 dref yr un pryd.鈥�
Mae鈥檙 Ganolfan Iechyd a Lles newydd bellach yn croesawu datganiadau diddordeb ac yn trefnu i weithwyr iechyd proffesiynol ddod draw i weld yr ystafelloedd ymgynghori clinigol sydd ar gael i鈥檞 llogi, gan annog ymholiadau gan ymarferwyr y GIG a rhai preifat. I gael rhagor o wybodaeth am y ganolfan, yr ystafelloedd sydd ar gael, neu i gyflwyno ymholiad, ewch i
Bydd manylion pellach am y dyddiad agor swyddogol a鈥檙 holl wasanaethau a fydd yn cael eu cynnig yn y cyfleuster newydd yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.