Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pennod newydd ar gyfer treftadaeth Glannau Dyfrdwy wrth i ni lansio Glannau Dyfrdwy Trwy鈥檙 Oesoedd
Published: 07/10/2026
Fel rhan o brosiect treftadaeth newydd sbon, gwahoddir trigolion Glannau Dyfrdwy i rannu atgofion a helpu i ddadorchuddio hanes yr ardal.
Wedi鈥檌 darparu gan Gyngor Sir y Fflint, bydd 鈥楪lannau Dyfrdwy Trwy鈥檙 Oesoedd鈥� yn treiddio i hanes Glannau Dyfrdwy, yr afon a鈥檙 cymunedau a ddatblygwyd ar ei glannau.
Ni fyddai鈥檙 prosiect hwn yn bosibl heb gyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri, yn ogystal 芒 chymorth ariannol ychwanegol gan Barc Adfer, Gwella a Chymdeithas Hanes Lleol Glannau Dyfrdwy a鈥檙 Ardal.
Nod y prosiect yw rhannu a dathlu treftadaeth unigryw Glannau Dyfrdwy gan weithio gyda鈥檙 cymunedau ar lan yr afon i ddogfennu sut mae鈥檙 ardal wedi newid dros y blynyddoedd.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri: 鈥淢ae stori Glannau Dyfrdwy yn llifo drwy ei hafon, ei diwydiannau a鈥檌 chymunedau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd Glannau Dyfrdwy Trwy鈥檙 Oesoedd yn dod 芒鈥檙 cyfraniadau hyn at ei gilydd, gan helpu pobl i ddarganfod, cofnodi a dathlu鈥檙 dreftadaeth sydd wedi siapio鈥檙 ardal ers cenedlaethau.鈥�
Bydd Swyddog Treftadaeth Gymunedol a Rheolwr Prosiect rhan-amser yn cael eu cyflogi i ddarparu鈥檙 prosiect.
Bydd y canlyniadau鈥檔 cynnwys:
- Casglu deunyddiau treftadaeth sydd ar gael yn barod er mwyn eu diogelu a鈥檜 gwneud yn gyhoeddus.
- Casglu deunyddiau newydd, yn enwedig atgofion o鈥檙 gwaith dur a diwydiannau eraill fel pysgota, llongau a garddio masnachol.
- Cynnal digwyddiadau treftadaeth a sesiynau hel atgofion mewn lleoliadau allweddol ymhob cymuned.
- Rhannu鈥檙 deunydd ar 么l ei olygu ar wefan Amgueddfeydd Sir y Fflint, .
- Defnyddio celf gymunedol, straeon digidol, llinellau amser gweledol, ffilmiau byrion ac arddangosfeydd i gyflwyno straeon treftadaeth mewn ffyrdd gwahanol i ymgysylltu 芒 chynulleidfa ehangach.
- Cynhyrchu teithiau rhithiol ar gyfer pob cymuned, gan weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol lleol.
- Annog ysgolion Glannau Dyfrdwy i gynnwys eu treftadaeth leol yn eu haddysg drwy gynnig ymweliadau 芒 safleoedd ac adnoddau addysg wedi鈥檜 teilwra.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: 鈥淢ae gan yr ardal gymaint o straeon i鈥檞 hadrodd, ac mi fydd yna bobl yn ein cymunedau gydag atgofion, lluniau a gwybodaeth leol sy鈥檔 haeddu cael eu rhannu.
鈥淒yma gyfle gwych i bobl gymryd rhan a helpu i adrodd a diogelu stori unigryw Glannau Dyfrdwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.鈥�
Bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal yn Nhwr y Cloc ddydd Sadwrn 10 Hydref i ddathlu 130 o flynyddoedd ers agor Gwaith Dur Shotton.
Diolch i wahoddiad caredig Wilsons Auctions, bydd Twr y Cloc ar agor o 11am tan 4pm. Mi fydd yna deithiau tywys o amgylch yr adeilad, arddangosfeydd ar y gwaith dur a鈥檙 ardal gyfagos, cyfle i hel atgofion gyda hen gydweithwyr a chyfle i archwilio鈥檙 tiroedd i ddarganfod mwy am waith Wilson鈥檚 Auctions.
Bydd y teithiau hyn yn cael eu cynnal bob awr drwy gydol y dydd a gellir archebu lle ar-lein drwy .
Meddai David Williams, Uwch Swyddog Gweithrediadau yn Wilsons Auctions: 鈥淩ydym ni mor falch o fod yn rhan o鈥檙 prosiect hwn ac agor drysau Twr y Cloc i nodi 130 mlynedd o hanes yng Ngweithfeydd Dur Shotton.
鈥淢ae鈥檙 safle yma wedi bod yn rhan o wead Glannau Dyfrdwy ers cenedlaethau, ac ers caffael yr eiddo yn 么l yn 2020, mae Wilsons Auctions wedi rhoi buddsoddiad sylweddol yn 么l yn y safle i roi bywyd newydd iddo.
鈥淩ydym wrth ein boddau yn croesawu cyn gydweithwyr, preswylwyr lleol ac ysgolion i rannu eu hatgofion a dysgu mwy am y gorffennol, ac annog y cyhoedd yn lleol i ddod i ddarganfod mwy am y gwaith rydym ni鈥檔 ei wneud yma heddiw.鈥�
Mae Wilsons Auctions yn garedig iawn wedi rhoi te, coffi a theisennau am ddim i bawb sy鈥檔 bresennol heddiw.
Mae disgwyl i鈥檙 galw am deithiau fod yn uchel, felly fe argymhellir eich bod yn trefnu ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Yn anffodus, nid yw鈥檙 digwyddiad hwn yn addas i blant dan 14 oed, ond gall ysgolion lleol drefnu ymweliad drwy gysylltu鈥檔 uniongyrchol gyda Wilsons Auctions.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect neu os hoffech chi gymryd rhan, e-bostiwch: CommunityHeritageOfficer@flintshire.gov.uk