Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Miloedd o blant Sir y Fflint yn mwynhau haf i鈥檞 gofio
Published: 01/10/2026
Mwynhaodd miloedd o blant a phobl ifanc ar hyd a lled Sir y Fflint haf yn llawn hwyl, cyfeillgarwch, dysgu a phrofiadau newydd yn sgil ystod eang o weithgareddau am ddim a ddarparwyd gan dimau Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint.
Trwy gydol gwyliau鈥檙 ysgol, bu plant yn cymryd rhan mewn rhaglenni wedi鈥檜 dylunio i鈥檞 cadw鈥檔 heini a鈥檜 diddanu.
Bu rhaglen Cynllun Chwarae鈥檙 Haf y Cyngor, wedi鈥檌 hwyluso gan Ddatblygu Chwarae Sir y Fflint a鈥檌 ariannu drwy Gynghorau Tref a Chymuned, yn boblogaidd iawn eto eleni.聽 Gyda mwy na 4,200 o blant wedi cofrestru, fe gofnodwyd cyfanswm o fwy na 15,500 yn bresennol ar draws 49 safle ar hyd a lled y Sir.
Fe fwynhaodd blant leoedd croesawgar a hygyrch lle gallent chwarae, archwilio a gwneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd diogel a hwyliog, wedi鈥檜 cefnogi gan Weithwyr Chwarae cymwys.聽 Darparwyd byrbrydau a dwr i gynnal egni鈥檙 plant, ac fe gynigiwyd prydau bwyd mewn safleoedd yn yr ardaloedd gyda lefelau uwch o amddifadedd, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.
Fe gyflwynodd y t卯m Datblygu Chwarae sesiynau penodol ar gyfer teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, wedi鈥檜 cefnogi gan Travelling Ahead a Th卯m Cynhwysiant Sir y Fflint, yn ogystal 芒 sesiynau ar gyfer plant a theuluoedd sy鈥檔 siarad Saesneg fel ail iaith.
Yn y cyfamser, cynhaliodd 12 o ysgolion Sir y Fflint sesiynau 鈥楤wyd a Hwyl鈥� wedi鈥檜 darparu gan dimau Ysgolion Bro mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Gwella, Arlwyo NEWydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cafwyd brecwast iach, byrbrydau a chinio poeth ynghyd ag ystod eang o weithgareddau oedd yn canolbwyntio ar faeth, gweithgareddau corfforol a lles.
Cafodd mwy na 5,500 cinio popeth ei weini yn ystod y rhaglen, tra bu plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau megis arbrofion gwyddoniaeth, crefftau, sgiliau syrcas a gemau chwaraeon, yn ogystal 芒 mwynhau ymweliadau gan Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru.
Mynychodd D卯m Gwasanaeth Ieuenctid ac Atal Digartrefedd Sir y Fflint sesiynau Ffitrwydd, Bwyd a Darllen a gynhaliwyd gan Gwella i gyflwyno gweithgareddau creadigol, cefnogi lles a chyfleoedd dysgu anffurfiol.聽 Cafodd gweithgareddau yn Gymraeg eu cynnwys drwy鈥檙 rhaglen, gan helpu pobl ifanc i ymgysylltu 芒鈥檙 iaith a magu hyder yn defnyddio eu Cymraeg, beth bynnag fo鈥檜 lefel.
Roedd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys gwersyll eirafyrddio a sg茂o deuddydd o hyd, a phrosiect natur Y Maes yn Saltney, lle bu gwirfoddolwyr ifanc yn creu gofod dysgu yn yr awyr agored a thyfu eu bwyd eu hunain.
Bu鈥檙 gwasanaeth hefyd yn cefnogi digwyddiadau cymunedol ac yn rhoi cefnogaeth un-i-un i bobl ifanc oedd ei angen trwy gydol y gwyliau.
Roedd t卯m Sorted Sir y Fflint hefyd yn brysur yn cynnal cyfres o weithgareddau am ddim i bobl ifanc 10 oed a hyn, yn cynnwys heriau a gemau gan ddefnyddio teganau aer, gan ddenu dros 250 o gyfranogwyr.
Cefnogodd Clwb Cwtch 118 o blant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth o 76 o deuluoedd drwy raglen lawn o weithgareddau yn cynnwys nofio, bowlio, gymnasteg, celf a chrefftau a diwrnodau allan.聽 Roedd y clwb yn gyfle gwerthfawr i blant gynnal cyfeillgarwch ac i鈥檙 teuluoedd gysylltu 芒鈥檌 gilydd mewn amgylchedd cefnogol.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: 鈥淢ae hi wedi bod yn wych gweld cymaint o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ym mhob rhan o Sir y Fflint dros yr haf.聽 Fe ddylai gwyliau鈥檙 haf fod yn amser i blant a phobl ifanc gael hwyl a chreu atgofion, a dyna鈥檔 union beth mae ein rhaglenni wedi helpu i鈥檞 ddarparu.
鈥淔e hoffwn ddiolch i鈥檔 staff a鈥檔 sefydliadau partner sydd wedi helpu i wneud y cyfleoedd yma鈥檔 bosibl, gan sicrhau y bu modd i blant fwynhau haf cyfoethog a hwyliog.鈥�