天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Teyrnged i鈥檙 Cynghorydd Teresa Carberry

Published: 25/09/2026

Yn drist iawn, bu farw鈥檙 Cynghorydd Teresa Carberry yn gynharach yr wythnos hon yn 64 oed.

Er mai dim ond ym mis Mai 2022 y cafodd ei hethol fel Cynghorydd, daeth y Cynghorydd Carberry yn aelod gwerthfawr iawn ac uchel ei pharch o鈥檙 Cyngor yn gyflym, ac roedd yn adnabyddus am ei dull teg a chytbwys at ei gwaith.

Bu mewn sawl r么l yn y Cyngor, yn nodedig bu鈥檔 Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ers 2022. Bu hefyd yn gwasanaethu ar Gyngor Tref yr Wyddgrug am nifer o flynyddoedd ac roedd yn athrawes fathemateg uchel ei pharch yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug am dros 30 mlynedd.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dave Hughes: 鈥淩oedd y Cynghorydd Carberry yn boblogaidd ac yn uchel ei pharch gan bawb. Roedd hi鈥檔 gweithio鈥檔 hynod o galed a bu鈥檔 gweithio鈥檔 ddiflino i wneud gwahaniaeth i鈥檞 hetholwyr. Byddwn i gyd yn hiraethu amdani, colled enfawr i Sir y Fflint.鈥�

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Mel Buckley: 鈥淩wy'n hynod o drist o glywed y newyddion am farwolaeth y Cynghorydd Teresa Carberry. Roedd hi鈥檔 gydweithiwr a chyfaill gwerthfawr iawn a ddangosodd llawer o wytnwch a dewrder. Er gwaetha鈥檙 problemau iechyd ofnadwy yr oedd yn eu hwynebu, Teresa oedd un o鈥檙 eneidiau mwyaf caredig ac addfwyn i mi gael y pleser o gwrdd 芒 nhw erioed.

鈥淔e fydd yna golled ar 么l y Cynghorydd Carberry ymysg ei chydweithwyr a ffrindiau yng Nghyngor Sir y Fflint ac mae ein meddyliau gyda鈥檌 theulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn.鈥�

Fel arwydd o barch i鈥檙 Cynghorydd Carberry, fe fydd y baneri y tu allan i Dy Dewi Sant yn cael eu chwifio鈥檔 isel.