Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ailagor ffordd yng nghanol tref fel rhan o arbrawf
Published: 17/09/2026
Yn rhan o arbrawf gan Gyngor Sir y Fflint, bydd Brunswick Road ym Mwcle yn ailagor i draffig drwodd a bydd parcio cyfleus yn cael ei gyflwyno o ddydd Llun 21 Medi 2026.
Bydd y newidiadau鈥檔 cael eu cyflwyno drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol a fydd yn galluogi鈥檙 Cyngor i weld sut mae Brunswick Road yn gweithredu o dan amodau gwahanol cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau hirdymor.
Bydd y cyfnod prawf, sy鈥檔 cael ei gefnogi gan saith o Gynghorwyr Sir Bwcle, yn gyfle i ddeall sut y gallai鈥檙 newidiadau effeithio ar symudiad traffig, parcio, hygyrchedd, a gweithrediad canol y dref o ddydd i ddydd.
Cynhelir yr arbrawf am gyfnod byr tan ddiwedd mis Hydref 2026.听 O dan y ddeddfwriaeth, gall y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol fod yn weithredol am hyd at 18 mis, er fe all y Cyngor newid, diddymu neu ddod 芒鈥檙 cyfnod prawf i ben yn gynt os ydi鈥檙 broses fonitro yn dangos bod hynny鈥檔 briodol.
Yn ystod y cyfnod prawf, bydd y Cyngor yn casglu gwybodaeth am draffig a pharcio ac yn gwrando ar adborth gan fusnesau lleol, preswylwyr ac ymwelwyr.听 Bydd y dystiolaeth yn helpu i benderfynu a ddylai鈥檙 trefniadau gael eu cadw, eu newid neu eu dileu.
Mae鈥檙 arbrawf 芒鈥檙 ffordd yn rhan o raglen ehangach o waith i edrych ar ddyfodol dyluniad ac ymddangosiad canol y dref.
Bydd proses ddylunio canol y dref yn ehangach, dan arweiniad Hemingway Design a WSP mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, yn edrych sut y gellir gwella canol y dref i greu gofod mwy deniadol, croesawgar a hygyrch i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
Bydd y broses ddylunio yn cael ei llywio gan ymgysylltu cyhoeddus, gan roi cyfleoedd i bobl leol, busnesau a defnyddwyr eraill 芒 chanol y dref rannu eu barn a helpu i lunio cynigion wrth i鈥檙 gwaith ddatblygu. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu yn nes at yr amser o ran sut a phryd y gall pobl gymryd rhan.听
Bydd y cam dylunio a cham cychwynnol ei weithredu鈥檔 cael ei ariannu drwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU.
Bydd yr arbrawf 芒鈥檙 traffig yn darparu gwybodaeth werthfawr ynghyd 芒 phroses ddylunio ehangach, gan helpu i sicrhau bod cynigion yn y dyfodol yn seiliedig ar sut mae canol y dref yn gweithio a barn y bobl sy鈥檔 ei ddefnyddio.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Hinsawdd:听鈥淢ae鈥檙 arbrawf yma鈥檔 rhoi cyfle i ni weld sut mae鈥檙 ffordd yn gweithredu pan mae鈥檔 agored i draffig drwodd ac i ddeall beth mae鈥檔 ei olygu i ganol y dref yn ymarferol. Mae hi鈥檔 bwysig ein bod yn treulio amser yn casglu tystiolaeth ac yn gwrando ar brofiadau preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i helpu i lunio鈥檙 cynigion cyn gwneud unrhyw benderfyniadau hirdymor.
"Mae Cronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU yn rhoi cyfle pwysig i fuddsoddi yng nghanol y dref, ac fe hoffem sicrhau bod buddsoddiad yn arwain at welliannau sy鈥檔 gweithio i bobl sydd yn byw, gweithio ac yn treulio amser yma.听
Bydd gwybodaeth am yr arbrawf, y broses ddylunio strydlun ehangach a鈥檙 cyfleoedd i gymryd rhan yn cael eu rhannu drwy wefan a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor.
Mae鈥檙 Cyngor yn annog preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu a rhannu eu barn wrth i鈥檙 gwaith fynd rhagddo.