Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Teithwyr rheilffordd yn cael eu hannog i wirio prisiau cyn defnyddio 鈥榯apio i mewn ac allan鈥�
Published: 16/09/2026
Mae preswylwyr Sir y Fflint yn cael eu hannog i wirio dewisiadau prisiau ar gyfer teithiau tr锚n i sicrhau nad ydynt yn talu fwy nag sydd angen am deithiau.
Mae peiriannau newydd 鈥榯alu wrth fynd鈥� mewn gorsafoedd yn galluogi defnyddwyr i dalu am deithio gan ddefnyddio cerdyn di-gyffwrdd cyn mynd ar y tr锚n.
Er bod y dull hwn yn ffordd fwy cyfleus i lawer o ddefnyddwyr deithio, nid yw bob amser yn cynnig y pris isaf sydd ar gael. Mae hyn oherwydd bod y peiriannau鈥檔 codi鈥檙 pris sengl safonol i oedolyn, gan gynnwys ar gyfer plant a phobl sydd 芒 Chardiau Teithio. Felly nid yw鈥檔 cynnwys gostyngiad priodol, ond mae鈥檔 sicrhau eich bod yn talu鈥檙 pris safonol gorau heb archebu tocyn ymlaen llaw.
Mae鈥檙 Cyngor yn annog teithwyr i ystyried eu dewisiadau cyn teithio, er mwyn osgoi talu gormod.
Yn dilyn cynnig a gafodd ei basio gan Gynghorwyr, mae Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint wedi ysgrifennu at Drafnidiaeth Cymru i ofyn bod arwyddion newydd yn cael eu gosod mewn gorsafoedd i roi gwybod i deithwyr bod modd iddynt gael tocynnau rhatach trwy ddulliau talu eraill, o bosibl.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: 鈥淢ae 鈥榯alu wrth fynd鈥� yn ddewis cyfleus i lawer o deithwyr trenau, ond mae鈥檔 bwysig bod pobl yn deall nad hwn yw鈥檙 dewis rhataf bob amser, o bosibl. Gallech arbed arian trwy brynu eich tocynnau ymlaen llaw ar-lein neu trwy brynu tocynnau arbennig ar gyfer nifer o deithiau, trwy ddefnyddio'r peiriannau tocynnau safonol mewn gorsafoedd, neu dalu ar y tr锚n hyd yn oed, pan nad oes peiriannau ar gael.
鈥淵n bwysig, ni ellir defnyddio 鈥榯alu wrth fynd鈥� gyda Cherdyn Teithio nac i brynu tocyn plentyn neu docyn teulu, ac ni ellir ei ddefnyddio i brynu tocynnau dwyffordd.
鈥淥 ganlyniad, rydym wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru ei gwneud yn fwy clir i deithwyr, oherwydd bod 鈥榯alu wrth fynd鈥� yn cyfrifo鈥檙 pris sengl safonol i oedolyn ar gyfer eich taith. Gobeithio y gellir rhoi sylw i鈥檙 mater hwn cyn gynted ag sy鈥檔 bosibl, er mwyn sicrhau nad yw teithwyr dan anfantais.鈥�