天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Parcio a Theithio am Ddim ar gyfer Gwyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug

Published: 16/09/2026

Gall ymwelwyr sy'n teithio i Wyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug y penwythnos hwn fanteisio ar wasanaeth Parcio a Theithio am ddim sy'n cael ei ddarparu gan Gyngor Sir y Fflint.

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu ddydd Sadwrn 19 Medi a dydd Sul 20 Medi, gan helpu mynychwyr yr wyl i fwynhau鈥檙 digwyddiad gan ysgafnhau鈥檙 pwysau ar barcio yng nghanol y dref.

Mae'r Cyngor unwaith eto yn falch o gefnogi'r wyl drwy ddarparu gwasanaeth bws gwennol am ddim rhwng Neuadd y Sir a Gorsaf Fysiau'r Wyddgrug.

Ar y ddau ddiwrnod, bydd dau fws gwennol yn gweithredu'n barhaus. Ar y dydd Sadwrn, bydd y gwasanaeth yn rhedeg o 9.30am tan 6pm, gyda'r bws olaf yn gadael Gorsaf Fysiau'r Wyddgrug am 5.55pm.

Ar y dydd Sul, bydd y gwasanaeth yn rhedeg o 10am tan 5.15pm, gyda'r bws olaf yn gadael Gorsaf Fysiau'r Wyddgrug am 5.10pm.

Bydd parcio yn y maes parcio haenog yn Neuadd y Sir yn rhad ac am ddim i ymwelwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth Parcio a Theithio, ond bydd angen 'talu ac arddangos' ar y dydd Sadwrn yn y maes parcio aml-lawr ac yn y maes parcio o flaen Neuadd y Sir. Ni chodir t芒l am barcio ar y dydd Sul.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth:聽 鈥淢ae Gwyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug yn ddigwyddiad hynod boblogaidd sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

鈥淩ydym yn falch o gefnogi鈥檙 wyl drwy ddarparu gwasanaeth 鈥楶arcio a Theithio鈥� am ddim, gan gynnig dull di-ffwdan o deithio i鈥檙 digwyddiad ac yn 么l, a helpu i leihau鈥檙 pwysau ar ganol y dref ar benwythnos sy鈥檔 siwr o fod yn un prysur iawn.

鈥淩ydym yn annog pawb sy'n mynychu'r penwythnos hwn i fanteisio ar y gwasanaeth rhad ac am ddim hwn ac i fwynhau popeth sydd gan yr wyl i'w gynnig.鈥�