天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad wedi鈥檌 gyhoeddi yn dilyn arolwg o Wasanaethau Addysg Cyngor Sir y Fflint

Published: 24/08/2026

Mae arweinwyr yng Nghyngor Sir y Fflint yn ymrwymedig i gryfhau Gwasanaethau Addysg y sir ymhellach yn dilyn cyhoeddi adroddiad newydd gan Estyn.

Bu Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn arolygu Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid y Cyngor ym mis Gorffennaf, a chyhoeddwyd eu canfyddiadau heddiw (24 Awst).

Mae鈥檙 adroddiad yn dweud bod Gwasanaethau Addysg Sir y Fflint yn cael eu harwain gan swyddogion ymrwymedig sy鈥檔 deall yr heriau sy鈥檔 wynebu eu gwasanaethau a鈥檜 bod wedi gweithredu newidiadau pwrpasol i gefnogi ysgolion a dysgwyr diamddiffyn yn ystod cyfnod o bwysau ariannol a sefydliadol sylweddol.

Fodd bynnag, daeth yr arolygwyr i鈥檙 casgliad bod y Cyngor yn peri pryder sylweddol.

Mae鈥檙 Cyngor yn derbyn canfyddiadau鈥檙 adroddiad ac mae鈥檔 gweithio i gryfhau gwasanaethau yn y meysydd pryder a nodwyd.

Mae鈥檙 adroddiad yn gwneud pum argymhelliad.

路听听听听听听 Mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 pryderon diogelu a nodwyd yn ystod yr arolwg, ar lefel gorfforaethol a lefel gwasanaeth

路听听听听听听 Cryfhau cynllunio strategol i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 risgiau a gaiff eu peri gan ddiffygion ariannol sydd gan ysgolion a gwella cynaliadwyedd ariannol ysgolion

路听听听听听听 Gwella effeithiolrwydd prosesau craffu fel bod aelodau etholedig yn canolbwyntio'n gyson ar risgiau strategol, canlyniadau dysgwyr a gwelliant hirdymor gwasanaethau addysg

路听听听听听听 Cryfhau arweinyddiaeth strategol a gwella ansawdd a chysondeb hunan-werthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant

路听听听听听听 Cryfhau cydweithio ar draws meysydd portffolio a gwasanaeth i sicrhau cefnogaeth a her fwy effeithiol i ysgolion

Er bod yr adroddiad yn nodi sawl maes lle mae angen gwelliant brys, mae hefyd yn nodi nifer o gryfderau yn y Gwasanaeth Addysg.

Mae arolygwyr yn cydnabod bod ymrwymiad cryf ymhlith uwch arweinwyr i wella gwasanaethau.

Dywedir bod Gwasanaeth Gwella Ysgolion y Cyngor, a sefydlwyd yn ddiweddar, yn meithrin perthnasoedd cryf gydag ysgolion, gan ddarparu cefnogaeth fwyfwy effeithiol a sicrwydd ansawdd, sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol.

Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn cydnabod dull y Cyngor o gefnogi a herio ysgolion sy鈥檔 peri pryder, gan nodi bod sawl enghraifft lle mae hyn wedi cyfrannu at welliannau, yn enwedig yn y sector cynradd.

Mae鈥檙 adroddiad yn dweud bod mynd i鈥檙 afael ag effaith tlodi ar les dysgwyr yn flaenoriaeth ar draws y Cyngor. Mae鈥檔 dweud bod uchelgais cryf y staff i wella llesiant a lles plant a鈥檜 teuluoedd yn gryfder i鈥檞 nodi.

Gwelodd arolygwyr hefyd fod y Cyngor yn hybu diwylliant diogelu cadarnhaol ar draws pob gwasanaeth, ac mae hyn wedi鈥檌 gryfhau ymhellach gan newidiadau diweddar o ran arweinyddiaeth.

Mae鈥檙 adroddiad yn dweud bod y Cyngor wedi buddsoddi鈥檔 briodol mewn ymestyn cefnogaeth i ddisgyblion niwrowahanol, gan ymateb i gynnydd o ran galw. Mae鈥檔 canmol gwaith Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen wrth rannu arbenigedd gyda lleoliadau prif ffrwd trwy waith allgymorth a chydweithio.

Mae adroddiad arall am Wasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint wedi鈥檌 gyhoeddi heddiw hefyd. Mae鈥檔 dweud bod y Gwasanaeth yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd gwerthfawr sy鈥檔 cefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol pobl ifanc yn dda, sy鈥檔 elwa o arweinyddiaeth gref, staff brwdfrydig a phrofiadol ac sy鈥檔 amlygu dau faes arfer arbennig o gryf.

Meddai Neal Cockerton, Prif Weithredwr: 鈥淢ae鈥檙 ddau adroddiad yn cydnabod gwaith brwdfrydig a chadarnhaol y timau yn y Gwasanaeth Addysg ac Ieuenctid.

鈥淢ae adroddiad Estyn am Wasanaeth Addysg y Cyngor yn gwneud pum argymhelliad yn benodol, gan gydnabod yr amgylchedd dwys y mae鈥檙 Gwasanaeth yn gweithio ynddo a鈥檙 camau sy鈥檔 cael eu cymryd i barhau i ddarparu gwasanaethau addysg o ansawdd uchel i鈥檔 hysgolion.聽

鈥淢ae鈥檙 pum argymhelliad a nodir yn yr adroddiad gan Estyn eisoes wedi dechrau cael sylw ac mae鈥檙 meysydd wedi cryfhau. Rwyf i, a swyddogion yn y Gwasanaeth, yn cymryd y materion a godwyd yn yr adroddiad o ddifri ac rydym yn gwbl ymrwymedig i weithredu i fynd i鈥檙 afael 芒 nhw wrth i ni weithio鈥檔 agos gydag Estyn.

鈥淢ae鈥檙 staff yn y ddau Wasanaeth wedi gweithio鈥檔 hynod o galed, ac yn parhau i wneud hynny, ac mae hyn wedi鈥檌 nodi yn y ddau adroddiad. Rwy鈥檔 cymryd y cyfle hwn i ddiolch iddynt am y gwaith maen nhw鈥檔 ei wneud gyda鈥檔 plant a鈥檔 pobl ifanc.鈥�

Meddai鈥檙 Cynghorydd David Hughes, Arweinydd y Cyngor:聽 鈥淓r bod yr adroddiad yn nodi meysydd lle mae angen i ni wella, mae hefyd yn cydnabod y cryfderau yn y Gwasanaeth,sy鈥檔 rhoi sylfaen gadarn i ni adeiladu arni.

鈥淩ydym yn ymrwymedig i ddysgu o鈥檙 canfyddiadau hyn a symud ymlaen 芒鈥檙 newidiadau sydd eu hangen.鈥�

Bydd y Cyngor yn llunio cynllun gweithredu a fydd yn nodi sut fydd yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argymhellion hyn, a bydd Estyn yn monitro cynnydd yn erbyn y cynllun hwn yn ystod cyfres o ymweliadau dilynol.

Mae鈥檙 ddau adroddiad ar gael i鈥檞 darllen ar wefan Estyn.