Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cannoedd o blant yn mwynhau Cynllun Chwarae鈥檙 Haf Sir y Fflint bob dydd wrth i deuluoedd gael eu hannog i ymuno.
Published: 06/08/2026
Mae dros 600 o blant y dydd yn cymryd rhan yng Nghynllun Chwarae鈥檙 Haf poblogaidd Sir y Fflint, ac mae lleoedd ar gael o hyd am weddill y gwyliau.
Mae Cynllun Chwarae鈥檙 Haf, sy鈥檔 rhad ac am ddim, yn darparu cyfleoedd chwarae diogel, cynhwysol a diddorol i blant drwy gydol gwyliau'r haf. Mae'r rhaglen, sy'n gweithredu ar 49 o safleoedd, yn cynnig sesiynau dan arweiniad gweithwyr chwarae hyfforddedig, i helpu plant i aros yn egn茂ol a gwneud ffrindiau wrth fwynhau ystod eang o brofiadau chwarae creadigol.
Mae鈥檙 cynllun yn parhau mewn llawer o safleoedd drwy gydol y chwe wythnos, tra bod lleoliadau eraill yn gweithredu naill ai yn ystod wythnosau 1-3 neu wythnosau 4-6, sy'n golygu bod amser o hyd i gymryd rhan.
Mae'r gweithgareddau'n amrywio o safle i safle, ond maent yn cynnwys chwarae 芒 gwrthrychau rhydd, celf a chrefft, a gemau chwaraeon. Mae pob cynllun chwarae yn galluogi plant i arwain eu chwarae eu hunain, sy鈥檔 golygu eu bod yn dewis eu chwarae yn rhydd, ei gyfarwyddo'n bersonol a'i ysgogi'n fewnol.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid drwy Gronfa Cymorth Argyfwng Bwyd Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau bwyd i blant sy'n mynychu sesiynau mewn lleoliadau mwy difreintiedig, yn ogystal 芒 byrbrydau ar draws pob safle, gan helpu i gefnogi teuluoedd drwy gydol cyfnod gwyliau'r haf.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: 鈥淢ae'n wych gweld cymaint o blant yn elwa o Gynllun Chwarae'r Haf eleni. Mae'r rhaglen yn rhan wirioneddol bwysig o wyliau'r haf i lawer o deuluoedd, gan ddarparu cyfleoedd am ddim i blant chwarae a chymdeithasu.
鈥淢ae鈥檙 cynllun chwarae yn rhoi cyfle i blant chwarae a chymdeithasu, gan feithrin hyder a datblygu cyfeillgarwch newydd wrth fanteisio i鈥檙 eithaf ar haul yr haf. Byddwn yn annog teuluoedd lleol i archebu lle i'w plant os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Play-Development听