天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno ffioedd parcio ym Mharc Gwepra

Published: 24/07/2026

Caiff ffioedd parcio eu cyflwyno ym Mharc Gwepra wythnos nesaf i helpu i reoli a chynnal mynediad at un o fannau gwyrdd mwyaf poblogaidd Sir y Fflint.

Mae Parc Gwepra鈥檔 denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn o bob cwr o鈥檙 sir a thu hwnt.

Er bod y poblogrwydd hwn yn adlewyrchu ei bwysigrwydd fel cyrchfan ar gyfer hamdden, natur a threftadaeth, mae鈥檙 cynnydd sylweddol yn nifer y cerbydau ac ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y safle a鈥檌 gyfleusterau.

Bydd incwm a gynhyrchir trwy ffioedd parcio鈥檔 cefnogi gwaith cynnal a chadw parhaus y maes parcio, gan alluogi rheolaeth well o鈥檙 safle trwy helpu i sicrhau fod llefydd yn parhau i fod ar gael ar gyfer defnyddwyr y parc ac annog pobl i beidio 芒 pharcio am gyfnodau hir.聽

Cyn cyflwyno鈥檙 ffioedd, mae mesurau rheoli traffig newydd hefyd wedi鈥檜 cyflwyno ar strydoedd cyfagos i fynd i鈥檙 afael 芒 phryderon ynghylch dadleoli parcio.

Daw鈥檙 ffioedd newydd i rym o ddydd Llun, 27 Gorffennaf, 7 niwrnod yr wythnos o 9am tan 9pm, gan gynnwys Gwyliau Banc. Bydd y ffioedd fel a ganlyn: 拢1 am hyd at ddwy awr, 拢2 am hyd at bedair awr a 拢4 am ddiwrnod llawn. Gellir brynu trwydded flynyddol am 拢50. Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais, anfonwch e-bost at parkingpermits@flintshire.gov.uk, neu ewch i

Meddai鈥檙 Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: 鈥淢ae Parc Gwepra鈥檔 un o fannau gwyrdd mwyaf gwerthfawr Sir y Fflint ac yn ased pwysig ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr. Mae angen cyflwyno鈥檙 ffioedd parcio i鈥檔 helpu i reoli鈥檙 cynnydd yn nifer y cerbydau a sicrhau bod modd parhau i gynnal y maes parcio i safon uchel.

鈥淩ydym wedi sicrhau ein bod yn cadw鈥檙 prisiau鈥檔 isel, gan ddechrau 芒 拢1 yn unig, bydd hyn yn sicrhau fforddiadwyedd a hygyrchedd i bawb sy鈥檔 mwynhau ymweld 芒鈥檙 parc.鈥

Mae Gwasanaeth Mynediad ac Amgylchedd Naturiol y Cyngor yn gofalu am y 160 erw o goetir, mannau agored gwyrdd a chyfleusterau ymwelwyr ym Mharc Gwepra. Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud dros y blynyddoedd diwethaf i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, gan gynnwys uwchraddio鈥檙 maes parcio gorlif yn 2021 trwy gyllid Grant Adfer Llywodraeth Cymru.