天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Northop Hall yn paratoi i fabwysiadu鈥檙 enw Cymraeg hanesyddol 鈥楶entre-moch鈥

Published: 07/07/2026

Mae pentref yn Sir y Fflint yn paratoi i fabwysiadu fersiwn Cymraeg o鈥檌 enw yn ffurfiol, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.

Mae鈥檙 enw Cymraeg 鈥楶entre-moch鈥 am Northop Hall wedi cael ei ddefnyddio gan genedlaethau o bentrefwyr, ond erioed wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol.

Daeth y cynnig i fabwysiadu鈥檙 enw鈥檔 ffurfiol yn dilyn cais gan Gyngor Cymuned Northop Hall, ac mae鈥檔 cael ei gefnogi gan adroddiad gan Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg.

Yn yr adroddiad, mae鈥檙 panel yn datgan mai鈥檙 argymhelliad yw mabwysiadu鈥檙 enw Cymraeg, i鈥檞 ddefnyddio ar y cyd gyda鈥檙 enw Saesneg, gan adlewyrchu cynnydd yn y defnydd o 鈥楶entre-moch鈥 mewn ystod eang o gyd-destunau.聽

Datblygodd y pentref ger plasty Northop Hall, o amgylch fferm o鈥檙 enw Pentre Moch. Mae erthyglau papur newydd o鈥檙 bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cyfeirio at y pentref gyda鈥檙 enw hwn.

Mae adroddiad y panel yn dweud bod 鈥楶entre-moch鈥 wedi cael ei ddefnyddio ers hynny a hyd heddiw, a gellir ei ganfod ar wefannau hanes lleol, yn y wasg, ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae鈥檙 adroddiad yn cydnabod bod enwau Cymraeg eraill ar gyfer y pentref wedi cael eu defnyddio dros y blynyddoedd, yn bennaf oherwydd awydd i ganfod enw mwy 鈥減archus鈥 na 鈥楶entre-moch鈥.

Serch hynny, mae鈥檔 pwysleisio bod yr enw鈥檔 ddisgrifiadol, yn hytrach na鈥檔 ddirmygus, gan ychwanegu nad oes gan enwau eraill yr un sail hanesyddol 芒 鈥楶entre-moch鈥, nac ychwaith wedi ennill ei blwyf yn yr un ffordd. Mae nifer o enwau lleoedd yng Nghymru yn cynnwys 鈥榤och鈥, megis 鈥楳ochdre鈥, meddai.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: 鈥淢ae enwau lleoedd yn rhan bwysig o鈥檔 treftadaeth a鈥檔 hunaniaeth, ac mae鈥檔 bwysig eu bod yn adlewyrchu defnydd lleol a thystiolaeth hanesyddol.

鈥淢ae gan 鈥楶entre-moch鈥 wreiddiau cadarn yn y gymuned, a sail hanesyddol glir, ac mae鈥檔 hen bryd ei fabwysiadu鈥檔 ffurfiol.

鈥淢ae鈥檙 cynnig yn adlewyrchu gwelededd cynyddol a defnydd bob dydd o鈥檙 Gymraeg ledled Sir y Fflint, a byddwn yn parhau i ystyried ceisiadau gan gynghorau cymuned, ac adolygu argymhellion gan y Panel Safoni Enwau Lleoedd, i nodi cyfleoedd pellach i gyflwyno enwau Cymraeg.鈥

Trafodir yr adroddiad ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y Cyngor yr wythnos nesaf, cyn gofynnir i鈥檙 Cabinet fabwysiadu鈥檙 enw鈥檔 ffurfiol mewn cyfarfod ar 14 Gorffennaf.

Os yw鈥檙 Cabinet yn cefnogi鈥檙 argymhelliad, bydd angen i Gyngor Sir y Fflint hysbysu Gweinidog Cymru, Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Arolwg Ordnans, a Chofrestrydd Cyffredinol yr enw Cymraeg newydd.

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei hysbysu o鈥檙 penderfyniad hefyd, er mwyn sicrhau bod yr enw Cymraeg ar gyfer Northop Hall yn cael ei gynnwys ar y rhestr enwau lleoedd safonol a gyhoeddwyd yn swyddogol ganddynt.