天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad Gwasanaeth: Casgliadau Biniau Brown

Published: 06/07/2026

Rhoddir gwybod i breswylwyr y mae eu biniau brown (gwastraff o鈥檙 ardd) i fod i gael eu casglu heddiw (dydd Llun), y byddan nhw鈥檔 cael eu casglu gyda'r nos yn hytrach nag yn ystod y dydd.

Mae'r tywydd poeth yn ddiweddar wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y deunydd sy鈥檔 cael ei ailgylchu ar draws y sir. Er mwyn helpu i gasglu鈥檙 holl ddeunydd ailgylchu sydd heb ei gasglu, mae criwiau a cherbydau gwastraff o鈥檙 ardd yn cefnogi gwasanaethau ailgylchu dros dro yn ystod y dydd.

Os yw eich bin brown i fod i gael ei wagio heddiw, gadewch ef allan a pheidiwch 芒 nodi ei fod yn gasgliad wedi鈥檌 fethu na chysylltu 芒'r Cyngor, gan y bydd y timau'n dychwelyd i'w gasglu yn hwyrach heno.

Rydym ni鈥檔 ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac yn diolch i breswylwyr am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni weithio i adfer lefelau gwasanaeth arferol cyn gynted 芒 phosibl.