Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diweddariad Casglu Ailgylchu
Published: 03/07/2026
Hoffem ddiolch i breswylwyr am eu hamynedd a darparu diweddariad ar gasgliadau ailgylchu ar draws y Sir.
Yn dilyn y tywydd poeth yr wythnos ddiwethaf, cafodd rhai casgliadau eu gohirio i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles ein criwiau a oedd yn gweithio mewn amodau heriol.
O ganlyniad, mae rhai aelwydydd yn cyflwyno llawer mwy o ailgylchu, sydd wedi cynyddu amseroedd casglu ac wedi achosi i rai cerbydau gyrraedd eu capasiti yn gynt na鈥檙 disgwyl.
Er bod adnoddau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar waith lle bynnag bosibl, mae rhai rowndiau ailgylchu wedi methu 芒 gorffen o fewn y diwrnod gwaith arferol ac efallai bydd angen dychwelyd i gasglu yn yr eiddo heb eu casglu.
Mae ein criwiau yn gweithio鈥檔 galed i glirio鈥檙 casgliadau sy鈥檔 weddill ac adfer y gwasanaeth mor gyflym 芒 phosibl. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a hoffem ddiolch i鈥檙 trigolion am eu dealltwriaeth.