Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Carreg filltir bwysig i Ganolbwynt Cymunedol Rivertown wrth i鈥檙 gwaith adeiladu ddechrau yn Shotton
Published: 03/07/2026

Mae carreg filltir arwyddocaol wedi鈥檌 chyrraedd ar gyfer prosiect 鈥淕obaith ar y Stryd Fawr鈥 Rivertown yn Shotton, wrth i gwmni Gareth Morris Construction Ltd (GMC) o Bontfadog ger Llangollen gael ei benodi鈥檔 brif gontractwr a鈥檙 gwaith ar y safle yn dechrau ddydd Llun 29 Mehefin 2026.
Bydd y gwaith ailddatblygu gwerth miliynau o bunnau yn trawsnewid safle Eglwys Ddiwygiedig Unedig Rivertown yn ganolbwynt cymunedol modern a phrysur, gan ddod 芒 gwasanaethau a sefydliadau at ei gilydd i gefnogi preswylwyr lleol.
Mae鈥檙 prosiect yn enghraifft wych o waith partneriaeth llwyddiannus. Mae t卯m Adfywio Cyngor Sir y Fflint wedi cefnogi datblygiad y cynllun ers 2023, gan weithio ochr yn ochr 芒 Grwp Partneriaeth Prosiect Rivertown a budd-ddeiliaid allweddol eraill i helpu i siapio鈥檙 prosiectau a chael cyllid.
Mae鈥檙 cydweithio hwn wedi helpu鈥檙 grwp partneriaeth i gael buddsoddiad o dros 拢2 miliwn, yn cynnwys 拢750,000 drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gan helpu i symud y prosiect yn ei flaen. Mae dros filiwn o bunnau wedi dod drwy ffynonellau preifat, yn cynnwys Sefydliad Moondance, Ymddiriedolaeth Benefact, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Oakdale, Cronfa Budd Cymunedol Parc Adfer ac Eglwys Ddiwygiedig Unedig Synod Genedlaethol Cymru.
Er mwyn bwrw ymlaen 芒鈥檙 gwaith adeiladu, mae Rivertown wedi symud ei weithgareddau i safle hen ysgol Bryn Tirion, gan sicrhau parhad gwasanaethau a gweithgareddau cymunedol gwerthfawr yn ystod y cyfnod adeiladu. Rhagwelir y bydd y gwaith yn cymryd 44 wythnos a phopeth wedi鈥檌 orffen erbyn mis Ebrill 2027.
Meddai Chris Atherton, Arweinydd Prosiect Rivertown:
鈥淒yma gyfnod hynod gyffrous i bawb sy鈥檔 ymwneud 芒 phrosiect Rivertown. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym ni wedi gweithio鈥檔 ddiflino gyda鈥檔 partneriaid i wireddu鈥檙 weledigaeth a rennir gennym. Mae鈥檙 gefnogaeth 鈥 yn enwedig gan Gyngor Sir y Fflint, wedi bod yn hollbwysig i鈥檔 helpu ni i sicrhau鈥檙 cyllid a鈥檙 hyder sydd ei angen i ddatblygu鈥檙 prosiect.
Wrth i鈥檙 gwaith ar y safle ddechrau a symud i Fryn Tirion dros dro, rydym ni wedi ymrwymo i greu gofod croesawgar a fydd yn gwasanaethu鈥檙 gymuned gyfan ar gyfer sawl blwyddyn i ddod.鈥
Meddai Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth:
鈥淒yma enghraifft wych o鈥檙 hyn y gall partneriaeth gref ei gyflawni. Mae鈥檙 Cyngor yn falch o gefnogi prosiect Rivertown ers 2023, gan helpu i ddatblygu cynllun a fydd yn darparu buddion go iawn i gymuned Shotton.
Mae sicrhau dros 拢2 filiwn o gyllid, yn cynnwys buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yn gyflawniad aruthrol. Bydd y canolbwynt cymunedol newydd yn chwarae rhan allweddol i gryfhau gwasanaethau lleol, cefnogi lles a chyfrannu at adfywiad parhaus canol y dref.鈥