Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgyrch lwyddiannus ar y cyd yn cryfhau safonau diogelwch tacsis ar hyd a lled Sir y Fflint
Published: 02/07/2026
Roedd y niferoedd o yrwyr tacsi yn Sir y Fflint oedd yn cydymffurfio 芒 chyfreithiau a rheoliadau trwyddedu yn uchel iawn mewn ymgyrch lwyddiannus ar y cyd a gynhaliwyd gan Gyngor Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru a鈥檙 DVSA.
Yn ystod ymgyrch 鈥楥argo鈥, bu Swyddogion Trwyddedu yn cynnal archwiliadau ar ochr y ffordd o dacsis a cherbydau hurio preifat gyda chydweithwyr o鈥檙 Heddlu, ac fe gymerwyd rhai cerbydau i leoliad y cytunwyd arno er mwyn i swyddogion y DVSA gynnal gwiriadau ychwanegol.聽 Dyma oedd y tro cyntaf i鈥檙 tri sefydliad yma weithio 芒鈥檌 gilydd ar un ymgyrch.聽
Cafodd cyfanswm o 21 o gerbydau eu stopio a鈥檜 harchwilio mewn gwiriadau ar hyd a lled y sir yn ystod y diwrnod. Adroddodd y Swyddogion fod yna lefel eang o gydymffurfiaeth, a dim ond m芒n broblemau a ganfuwyd.聽
Rhoddodd y DVSA gyngor ar deiars oedd yn agos谩u at y terfyn cyfreithiol, tra bod Swyddogion Trwyddedu wedi rhoi cyngor ar faterion megis pecynnau cymorth cyntaf coll ac arwyddion dim ysmygu.
Nod yr ymgyrch oedd sicrhau bod cerbydau a gyrwyr trwyddedig yn bodloni eu hamodau trwyddedu a gofynion cyfreithiol ehangach, helpu i gynnal diogelwch y cyhoedd a hyder yn fflyd drwyddedig y Sir.聽
Roedd yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Trwyddedu, sef ymgyrch flynyddol sydd yn dangos y cydweithio rhwng timau trwyddedu, yr Heddlu a sefydliadu partner i amddiffyn y cyhoedd a chynnal safonau uchel ar draws diwydiannau trwyddedig.聽
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae鈥檙 gwiriadau yma鈥檔 helpu i sicrhau y gall preswylwyr deithio 芒 hyder, gan wybod bod tacsis a cherbydau hurio preifat trwyddedig yn Sir y Fflint yn parhau i fodloni鈥檙 safonau a ddisgwylir ganddynt.
鈥淩wy鈥檔 falch bod yr ymgyrch hon wedi canfod lefelau uchel o gydymffurfiaeth a diolch i鈥檙 gyrwyr am eu cydweithrediad.鈥
Dywedodd y Sarsiant Emma Birrell o Uned Trosedd Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: 鈥淢ae鈥檔 rhaid i yrwyr tacsi ddilyn deddfwriaeth benodol er mwyn sicrhau bod eu cerbydau a gyrwyr yn ddiogel i fod ar y ffordd, ac yn anffodus rydym ni鈥檔 gweld rhai nad ydynt yn cyrraedd y safon.
鈥淐aiff unrhyw drosedd ei chosbi鈥檔 briodol, a byddwn yn parhau 芒鈥檙 gwiriadau trwy gydol y flwyddyn mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y Fflint.聽聽
鈥淢ae hi鈥檔 bwysig iawn bod unrhyw un sy鈥檔 ymweld 芒 chanol trefi a dinasoedd yn cael sicrwydd mai eu diogelwch yw鈥檙 peth pwysig pan fyddant yn defnyddio tacsi.聽
聽鈥淢ae鈥檙 ymgyrch hon yn amlygu鈥檙 pwyslais rydym yn ei roi ar ddiogelwch cymunedol - rydym eisiau i bobl ddod yma a mwynhau ac yna mynd adref yn ddiogel wedyn.鈥