Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hwb o £900,000 ar gyfer gweithgynhyrchwyr Sir y Fflint wrth i鈥檙 Parth Buddsoddi ddarparu canlyniadau cynnar
Published: 30/06/2026
Mae gweithgynhyrchwyr lleol eisoes yn elwa o Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, gyda 15 o fusnesau lleol yn derbyn cyfran o 拢898,461 mewn grantiau i gymell twf a chreu swyddi.聽
Disgwylir i鈥檙 cyllid, a ddyfarnwyd gan Gyngor Sir y Fflint, ddatgloi 拢1.2 miliwn arall mewn buddsoddiad sector preifat, wrth i fusnesau ddarparu cyllid cyfatebol ar gyfer eu prosiectau, gan olygu bod buddsoddiad o dros 拢2 filiwn yn sector gweithgynhyrchu鈥檙 sir.聽
Nod y cynllun yw cynorthwyo gweithgynhyrchwyr bach a chanolig Sir y Fflint i fuddsoddi鈥檔 gynt, tyfu鈥檔 gyflymach a chystadlu鈥檔 fwy effeithlon.聽聽
Disgwylir i鈥檙 prosiectau a gefnogwyd hyd yn hyn greu 79 o swyddi llawn amser, a galluogi busnesau bach a chanolig i fuddsoddi mewn peiriannau newydd, awtomatiaeth, gwelliannau eiddo, effeithlonrwydd ynni, achrediadau diwydiant a gwelliannau cynhyrchiant ehangach.聽
Mae鈥檙 gefnogaeth wedi cyrraedd busnesau ar draws Maes Glas, Saltney, Sandycroft a鈥檙 Wyddgrug, ochr yn ochr ag ystadau diwydiannol allweddol ledled y sir, gan ddangos cryfder ac ystod y sylfaen gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint.聽聽
Mae cymaint o alw am y cynllun nes bo鈥檙 rownd bresennol yn llawn ac wedi cau dros dro, gyda鈥檙 disgwyl y bydd mwy o gyllid ar gael yn yr hydref.聽
Meddai鈥檙 Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淒yma鈥檔 union oedd bwriad y Parth Buddsoddi.聽 Cefnogi ein gweithgynhyrchwyr lleol i dyfu, buddsoddi a chreu swyddi.聽
鈥淩ydym eisoes yn gweld busnesau鈥檔 cyflwyno cynlluniau i foderneiddio offer, ehangu capasiti a gwella effeithlonrwydd.聽 Dyma brosiectau y mae鈥檔 bosibl na fyddent wedi digwydd heb y gefnogaeth.聽
鈥淵n yr un modd, mae pob punt o gyllid cyhoeddus yn derbyn cyllid cyfatebol gan y busnesau eu hunain, gan ddatgloi buddsoddiad preifat sylweddol yn economi Sir y Fflint.聽 Mae lefel y galw yr ydym wedi鈥檌 weld yn dangos gwir uchelgais yn ein sector gweithgynhyrchu, ac rydym yn edrych ymlaen at ail-agor y cynllun yn yr hydref i gefnogi mwy o gwmn茂au鈥.聽
Mae鈥檙 rhaglen grant yn rhan allweddol o鈥檙 Parth Buddsoddi ehangach, gan gynorthwyo i atgyfnerthu sylfaen gweithgynhyrchu Sir y Fflint a Wrecsam, cymell arloesi a chefnogi twf economaidd hirdymor ar draws y rhanbarth.聽
Cefnogir rhaglen Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam gan Lywodraeth Cymru a鈥檙 DU a鈥檌 gydlynu gan Uchelgais Gogledd Cymru.聽