Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriadau鈥檔 agor ynghylch estyniad arfaethedig o Orchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC) rheoli cwn ac alcohol
Published: 26/06/2026
Mae trigolion Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ynghylch a ddylid ymestyn dau GGMC presennol am dair blynedd arall.
Mae GGMC yn offer cyfreithiol sydd wedi鈥檜 hanelu at frwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.聽 Ar hyn o bryd mae gan Sir y Fflint ddau Orchymyn mewn grym 鈥 un sy鈥檔 ymdrin 芒 rheoli cwn ac un arall sy鈥檔 ymwneud ag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus.
Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i bob GGMC gael ei adolygu bob tair blynedd.聽 Heb ei adnewyddu, bydd y ddau orchymyn presennol yn dod i ben ar 29 Hydref 2026.
Mae鈥檙 GGMC Rheoli Cwn yn nodi sawl gofyniad ar gyfer perchnogion cwn ledled Sir y Fflint.聽 Mae鈥檙 rhain yn cynnwys cael gwared ar faw cwn o bob man cyhoeddus, cario modd i godi gwastraff, rhoi ci ar dennyn pan gyfarwyddir hynny gan swyddog awdurdodedig, cadw cwn allan o gaeau chwaraeon wedi鈥檜 marcio, mannau hamdden ffurfiol, mannau chwarae wedi鈥檜 ffensio a thiroedd ysgol, cadw cwn ar dennyn mewn mynwentydd, a chyfyngu ar fynediad i gwn mewn lleoliadau penodol ledled y sir.
Mae鈥檙 GGMC ar gyfer Rheoli Alcohol yn rhoi鈥檙 pwer i Swyddogion yr Heddlu ofyn i aelodau o鈥檙 cyhoedd ildio alcohol os ydyn nhw o鈥檙 farn bod aelod o鈥檙 cyhoedd yn achosi niwsans mewn man cyhoeddus.聽 Nid gwaharddiad alcohol llwyr mewn mannau cyhoeddus mohno ac nid yw鈥檔 berthnasol i safleoedd trwyddedig.聽
Cyn ymestyn GGMC, rhaid i'r Cyngor ymgynghori 芒'r Heddlu, cynrychiolwyr cymunedol a'r cyhoedd yn ehangach. Bydd adborth a gesglir drwy'r broses hon yn helpu i benderfynu a yw ymestyn y Gorchmynion yn angenrheidiol i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag digwydd neu ailddigwydd.
Anogir trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhannu eu barn.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: 鈥淢ae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn chwarae rhan bwysig wrth gadw ein cymunedau'n ddiogel, yn l芒n ac yn groesawgar.
鈥淩ydym am glywed gan drigolion, grwpiau cymunedol a phartneriaid ynglyn 芒 sut mae'r gorchmynion presennol yn gweithio ac a ddylid eu hymestyn. Bydd eich adborth yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i fynd i'r afael 芒'r materion sydd bwysicaf i'n cymunedau.鈥
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau, ewch i siryfflint.gov.uk/ymgynghoriadau