天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu gostyngiad person sengl treth y cyngor

Published: 19/06/2026

Bydd trethdalwyr yn Sir y Fflint sy鈥檔 cael gostyngiad o 25% ar eu bil fel trigolion deiliadaeth sengl yn cael eu gwirio yn fuan i sicrhau bod y gostyngiadau yn gywir. Mae hwn yn ymarfer blynyddol rheolaidd.

Bydd Datatank Ltd, darparwr gwasanaeth arweiniol sy鈥檔 arbenigo 芒鈥檙 adolygiadau hyn, yn gweithio gyda鈥檙 Cyngor i gadarnhau鈥檙 gostyngiad ar gyfer hawlwyr dilys, ac i nodi pobl sy鈥檔 hawlio gostyngiad ar eu Treth y Cyngor pan nad oes ganddynt hawl i鈥檞 gael. Mae鈥檙 adolygiad yn ffurfio rhan o fesurau鈥檙 Cyngor i atal twyll ac i ddiogelu pwrs y wlad.

Pan gaiff hawliadau anghywir eu nodi, bydd y Cyngor yn dod 芒鈥檙 hawliadau hynny i ben gan geisio adennill y gostyngiad o ddyddiad priodol.

Ar hyn o bryd mae bron i 24,500 o drigolion 鈥� un o bob tri chartref, yn hawlio gostyngiad person sengl ac er bod mwyafrif helaeth y trigolion hyn yn hawlio'r gostyngiad yn gywir, mae鈥檔 bosibl y bydd achosion lle nad yw'r Cyngor wedi cael gwybod am newid mewn deiliadaeth cartref a all effeithio ar y gostyngiad neu lle hawlir y gostyngiad trwy dwyll yn fwriadol.聽聽

Anogir unrhyw drethdalwyr sy鈥檔 cael gostyngiad ac sy'n teimlo nad yw鈥檔 gywir, i gysylltu 芒 gwasanaeth Treth y Cyngor ar unwaith ar (01352) 704848 neu hysbysu ynghylch newid amgylchiadau ar-lein yn cyn i鈥檙 adolygiad llawn ddechrau ym mis Gorffennaf 2026.